Mynychodd Ryan, 23, ein huned adferiad Parkland Place yn dilyn camddefnydd cocên, anawsterau iechyd meddwl a hwyliau isel ac iselder. Ni fynychodd Ryan ‘detox’ cyn ei fynediad a bu’n ymgysylltu â thriniaeth therapiwtig am 21 diwrnod.
Cyn ei dderbyn, roedd Ryan yn defnyddio cocên ym mhreifatrwydd ei gartref ei hun yn dilyn diwedd perthynas hirdymor. Adroddodd Ryan ynghylch iechyd meddwl gwael, teimladau o hunanwerth isel a gorbryder mynych. Roedd hefyd yn wynebu heriau eraill yn cynnwys anawsterau gyda chymhelliad, canolbwyntio gwael yn y gwaith a phroblemau ariannol o ganlyniad i’w or-wario ar gocên. Roedd Ryan hefyd yn ei chael yn anodd o ganlyniad i deimlo’n ynysig yn y gweithle gan ei fod yn gweithio ar ei ben ei hun rhan amlaf ac yn cael ychydig iawn o ryngweithiad gyda’i gydweithwyr yn ystod y dydd.
Wedi iddo gael ei dderbyn, ymddangosai cymhelliad a hwyliau Ryan yn isel, ac roedd yn awyddus i ymgartrefu yn Parkland Place a threulio amser ar ei ben ei hun yn ei ystafell. Un o’r materion sylfaenol i Ryan oedd ymdopi a delio gyda’i dor-berthynas diweddar, oedd wedi arwain i hwyliau isel ac iselder yn ogystal â gor-ddefnydd o gocên. Aethpwyd i’r afael â’r mater hwn yn ystod y sesiynau cwnsela yn bennaf, gyda Ryan yn ysgrifennu llythyr ffarwelio i’w gyn-bartner yn ystod y sesiynau hyn.
Roedd gan Ryan rwydwaith cymorth da o’i gwmpas pan gafodd ei dderbyn a’i ryddhau, gan gynnwys ei rieni, ei ffrindiau a’i gydweithwyr. Yn ystod y cam cynllunio gofal amlygwyd y rhwydweithiau cymorth hyn, yn ogystal â meysydd blaenoriaeth yr oedd Ryan am ganolbwyntio arnynt gan gynnwys lles emosiynol a hunan-barch, ymddygiad caethiwus a gwaith. Prif nod Ryan oedd peidio â dychwelyd i’r berthynas a oedd wedi chwalu’n ddiweddar gan ei fod wedi bod yn gweld y sefyllfa ‘ymlaen/i ffwrdd’ yn niweidiol i’w iechyd emosiynol a meddyliol ac yn dipyn o straen.
Yn ystod ei amser yn Parkland Place, ymgysylltodd Ryan yn llawn gyda’r rhaglen therapiwtig oedd wedi’i darparu, yn cynnwys y sesiynau grŵp, y sesiynau un-i-un, cwnsela a’r teithiau dydd Sadwrn. Ymgysylltodd Ryan hefyd yn y sesiynau myfyrdod a chadw dyddlyfr yn ddyddiol. Yn ystod y sesiynau un-i-un gweithiodd Ryan a’i therapyddion ar wella ei hunan-barch, gor-bryder, dod dros ei dor-perthynas a rheoli ei chwantau. Annogwyd ef i ymgysylltu gyda’i rwydwaith cefnogaeth ac i leihau ei amseroedd ynysig ac encilio cymdeithasol.
Cyn iddo ymadael, adlewyrchodd Ryan ar yr amser a dreuliodd yn Parkland Place ac fe deimlai fod ei iechyd meddyliol a chorfforol wedi gwella ac fe deimlai’n awyddus i ddychwelyd adref ac i wneud defnydd ymarferol o’r sgiliau ymdopi a rheoli yr oedd wedi eu datblygu.
Wedi ei ryddhau, ymgysylltodd Ryan gyda galwadau lles gan ein therapyddion ac fe fynychodd sesiynau ôl-ofal. Er iddo wynebu rhai sefyllfaoedd heriol wedi iddo ddychwelyd gartref, yn cynnwys rhieni yn gwahanu a chyfnod byr o ddigartrefedd, adroddodd Ryan ei fod yn teimlo ei fod wedi setlo ac wedi ymgysylltu yn ei adferiad ac mae wedi ymatal rhag sylweddau ers gadael triniaeth, yn ogystal â dychwelyd i gartref ei blentyndod. Ar ben hynny, mae Ryan wedi cael dyrchafiad yn y gwaith, mae’n hapus mewn perthynas newydd ac yn parhau i ymgysylltu â sesiynau ôl-ofal.