Tudalen Aelodaeth

Tudalen Aelodaeth

Mae Adferiad Recovery yn falch o fod yn Elusen a arweinir gan ei haelodau. Golygai hyn fod Llais ein haelodau yn greiddiol i bopeth rydym yn ei wneud. Drwy ddod yn aelod byddwch yn rhan o’r llais i’r miloedd o bobl yng Nghymru a Lloegr sy’n wynebu ystod o faterion iechyd sy’n cyd-ddigwydd ac amgylchiadau cymdeithasol cymhleth, drwy frwydro am newid, rhannu profiadau a helpu i siapio ein gwaith. Gobeithiwn yr ymunwch â ni a dod yn rhan o Lais Adferiad!

Tudalen Aelodaeth

Pam dod yn aelod?

Golygai dod yn aelod yn Adferiad Recovery y gallwch gymryd rhan a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed drwy lywio dyfodol gwasanaethau yn lleol, ledled Cymru a ledled y Deyrnas Unedig.

 

Cynrychiolir Adferiad Recovery ar nifer o grwpiau strategol Cymru a’r Deyrnas Unedig gyfan sy’n cynrychioli lleisiau ein cleientaid a gofalwyr. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrando ar Adferiad Recovery, ond mae mwy o aelodau’n golygu llais cryfach, mwy o awdurdod a mwy o ddylanwad ble mae’n cyfrif.

 

Tudalen Aelodaeth

Faint mae’n ei gostio?

Nid oes tâl i ddod yn aelod ond rydym bob amser yn croesawu unrhyw gyfraniad sy’n mynd tuag at uchelgais a chenhadaeth yr elusen.

Beth fyddaf yn ei gael?

Tudalen Aelodaeth

Sut mae dod yn aelod?

Mae dod yn aelod yn hawdd, yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw i gwblhau’r ffurflen isod, wedyn fe gysylltwn â chi i’ch croesawu fel aelod swyddogol.

Cysylltwch â ni