Partneriaid

Partneriaid

Mae gan yr Elusen berthnasoedd helaeth gyda phartneriaid a rhanddeiliaid amrywiol er mwyn cyflawni ei nodau elusennol ac er budd ei grŵp cleientiaid. Mae Adferiad Recovery yn gweithio’n weithredol ac ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd Lleol, Awdurdodau Lleol, Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol, Byrddau Cynllunio Ardal, Yr Adran Gwaith a Phensiynau, comisiynwyr pobl ifanc, darparwyr rheoli troseddwyr, cymdeithasau tai, prifysgolion, colegau, ac amrywiol elusennau annibynnol a chynghorau gwirfoddol yn cynnwys asiantaethau eraill sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer cyn-filwyr.

Mae Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru (WAMH) yn gydweithrediad rhwng elusennau iechyd meddwl a hunanladdiad a hunan-niwed cenedlaethol Cymru. Gyda’n gilydd, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl sy’n profi afiechyd meddwl yng Nghymru yn cael eu trin â thosturi, yn cael clywed eu lleisiau ac yn gallu cael mynediad at wasanaethau cymorth yn gyflym ac mor agos at eu cartrefi â phosibl.

Mae’r Gynghrair yn cynnwys:

Adferiad
Diverse Cymru
Mental Health Matters Wales
Mental Health Foundation
Mind Cymru
Papyrus UK: Prevention of Young Suicide
Platfform
Samaritans Cymru

Mae Adferiad hefyn yn aelod o’r Gynghrair Byd-eang ar gyfer Rhwydweithiau Eiriolaeth Salwch Meddwl (GAMIAN) ac yn cael ei chynrychioli ar lefel Bwrdd.

Partneriaid

Mae Adferiad Recovery yn aelod o Datblygu Cymru Gofalgar (DACW), cydgwmni o Gymru sy’n cynnig llawer o wasanaethau gwahanol i bobl sydd wedi’u heffeithio gan broblemau camddefnyddio alcohol a chyffuriau a phroblemau iechyd meddwl.

Mae Adferiad Recovery hefyd yn parhau ein partneriaeth gyda Mind Cymru i ddarparu’r rhaglen Amser i Newid Cymru sy’n herio, addysgu, ac yn mynd i’r afael â’r stigma a’r gwahaniaethu mewn iechyd meddwl. Bydd llwyddiant y rhagen hon yn cael ei ddatblygu ymhellach yn 2022/2023 fel rhan o’n hymgyrch i herio’r stigma sy’n ymwneud â chaethiwed.

Partneriaid

Diddordeb dod yn bartner?

Cysylltwch yma i siarad â’n tîm.

Cysylltwch â ni

Archwiliwch Mwy