Case Study     12/05/2023

Stori John

Stori John

Mynychodd John, 65, ein huned adferiad yn Parkland Place, Gogledd Cymru, oherwydd camddefnydd alcohol. 

Yn dilyn ei ymddeoliad fel athro a nifer o berthynasau yn chwalu, dechreuodd John or-yfed nes ei fod yn ei chael yn anodd cadw diddordeb mewn diddordebau megis ysgrifennu, rhywbeth oedd unwaith yn cynnig strwythur, pwrpas a’r ymdeimlad o gyflawniad iddo. Fel canlyniad, bu i’r colledion hyn effeithio ar ei lesiant emosiynol gan greu cylch dieflig, gyda’i yfed yn dechrau cynyddu’n raddol. Profodd damwain car i fod yn drobwynt ac yn gatalydd i John i ofyn am help o’r diwedd er mwyn adenill rheolaeth dros ei fywyd, gan roi’r cymhelliad angenrheidiol iddo i wneud y newid i’w fywyd.

Yn dilyn ei dderbyniad i’r uned dadwenwyno yn Parkland Place yn Swydd Gaerhirfryn, ar gyfer trîn camddefnydd alcohol, darganfyddwyd fod gan John Glefyd yr Afu sy’n Gysylltiedig ag Alcohol (ARLD) a Chlefyd Melyn, a arweiniodd at ostyngiad yn ei symudedd, ei ansawdd bywyd ac effaith sylweddol ar ei weithgareddau dyddiol. Yn dilyn ei ryddhau o’r uned yn Swydd Gaerhirfryn, derbyniwyd John yn Parkland yn Hen Golwyn, i gychwyn ar agwedd adferiad y rhaglen hon.

Yn ystod ei arhosiad yn Parkland Place, bu i John adnabod nifer o nodau byr-dymor a hir-dymor, yn cynnwys: parhau i ymatal a mynd i’r afael â rheoli ei sbardunau ymddygiadau caethiwus yn benodol, datblygu ei hunan-hyder a’i bendantrwydd mewn perthynasau, a chael mewnwelediad i sut roedd y ffactorau hyn yn cysylltu â’i gilydd.

Trwy roi ymagwedd gyfannol i John, gan fynd i’r afael â’i anghenion corfforol, emosiynol, seicolegol a chymdeithasol, daeth yn fwy hyderus, yn raddol, ac fe brofodd welliant yn ei iechyd cyffredinol. Er enghraifft, yng nghyfnod cynnar arhosiad John, ymddangosai’n ansicr ar ei draed. Er mwyn ei gefnogi i gyrraedd ei nod o wella ei ffitrwydd, cymerodd John ran mewn cerdded ychydig yn ddyddiol, gan gynyddu’r pellter bob tro, gyda hyn yn cyfrannu at wella ei iechyd corfforol a chael effaith positif ar ei lesiant yn gyffredinol. Arweiniodd hyn i John fod â’r egni a meddwl clîr i allu ail-ymgysylltu gyda’i ddiddordebau blaenorol, ble’r oedd canolbwyntio yn bwysig.

Dangosodd John ymroddiad cryf i’r rhaglen therapiwtig, a oedd yn cynnwys sesiynau cwnsela ddwywaith yr wythnos, sesiynau un-i-un dwys gyda’i weithwyr allweddol, myfyrdodau ymwybyddiaeth ofalgar a sesiynau grŵp dyddiol gyda’i gyfoedion. Yn ystod y sesiynau grŵp, ymgysylltodd John yn dda mewn ystod o sesiynau strwythuredig, yn cynnwys y pynciau canlynol: y Cylch o Newid, Hunan-Siarad Negyddol, Afluniadau Gwybyddol, Hunan-barch, Straen, Poeni a Chil-gnoi (Rumination), Iselder, Gohirio, Deall Pryder, Delio â Theimladau Anodd, Poeni a Gor-feddwl, Amserlennu Gweithgareddau a Phendantrwydd.

Yn dilyn ei ryddhau o Parkland Place, defnyddiodd John ei sesiynau ôl-ofal dros y ffôn a chael gwaith gwirfoddol mewn siop elusen leol. Ehangodd hyn ei gylch cymdeithasol, gan gynnig patrwm a phwrpas i’w fywyd dyddiol, yn ogystal â chyfrannu i’w gymuned. Mae hyn oll wedi cynyddu ei hunan-barch ac wedi rhoi iddo’r gefnogaeth yr oedd ei angen wrth iddo barhau ar daith ei adferiad.