Case Study     12/05/2023

Stori Sasha

Stori Sasha

Daeth Sasha allan o adsefydlu (rehab) ym mis Ionawr 2022 ac mae’n siarad am y cymorth ymarferol a gynigir gan Adferiad a sut mae gwirfoddoli wedi helpu ei thaith adferiad.

“Pan ddes i allan o adsefydlu, roeddwn i’n ofni’r syniad o beidio â chael rhwydwaith cymorth ac y byddwn i ar fy mhen fy hun.

“Cysylltais ag Adferiad, ac maen nhw wedi fy helpu mewn cymaint o ffyrdd.

“Cefais fentor cymheiriaid o’r enw Sarah, sydd wedi rhoi cymorth ymarferol i mi, fel gwneud cais am gymorth ariannol, cyngor ar fanciau bwyd, awgrymu cyrsiau, a chymorth sylfaenol fel cysylltu â mi os nad yw hi wedi clywed gennyf ers rhai dyddiau.

“Dydw i ddim yn teimlo’n unig erbyn hyn, oherwydd rwy’n gwybod y gallaf droi ati am gymorth a chefnogaeth, ac os na all helpu gyda mater penodol, bydd yn dod o hyd i rywun all helpu.
Gwirfoddoli

“Rwy’n hoff iawn o wirfoddoli yn Adferiad. Rwy’n gwirfoddoli ar brosiectau allanol yn bennaf, mae’n rhoi teimlad o falchder i mi, nid yn unig yn helpu’r gymuned, ond rwyf hefyd yn helpu gyda fy adferiad fy hun.

“Rwy’n cyfarfod pobl sydd yn yr un sefyllfa â fi. Mae mynd i ddigwyddiadau wedi gwella fy hyder yn fawr. Pan ddechreuais i gyntaf, roeddwn i mor swil, nawr gallaf siarad â phawb.
“Pan dwi’n gwirfoddoli, dwi’n magu fy hyder ac mae wedi helpu fy nghyflwr meddwl. Rwyf hefyd wedi bod yn mynychu cwrs bob wythnos. Rwy’n mwynhau’r sesiynau, nid yn unig yr wyf yn dysgu sgiliau newydd, rwyf hefyd yn cyfarfod â phobl newydd.

“Rwy’n arbennig o hoff o’r ffaith bod gan aelodau staff brofiad real, felly maent yn gwybod beth rydyn ni’n mynd drwyddo. Mae ganddynt fewnwelediad gwirioneddol i’r daith adferiad, ac rwy’n ei chael hi’n llawer haws siarad â nhw. Rwy’n gweld yr holl staff yn gyfeillgar ac yn barod i helpu pryd bynnag y gallant.”