Ein Stori Ni

Rydym yn falch o’n hanes ac yn credu bod ein stori’n amlygu ein harbenigedd, ein hymrwymiad a’n hymroddiad i’n cenhadaeth.

Cymryd Rhan
Ein stori

1968 – Ble dechreuodd popeth

Roedd Dr Dafydd Alun Jones yn feddyg ifanc yn ysbyty iechyd meddwl Dinbych pan sylwodd bod alcoholiaeth yn dod yn broblem fwy cyffredin a phrin oedd y gefnogaeth ar gyfer y cleifion hyn o fewn ein hysbytai a’r tu allan iddynt.

Ym 1968 sefydlodd Dr Jones uned bwrpasol i drin alcoholiaeth yn un o wardiau gwag yr ysbyty. Ond fe sylweddolodd nad oedd triniaeth ysbyty yn ei hun yn ddigon a bod cleifion angen cefnogaeth yn eu cartrefi a’u cymunedau wedi iddynt adael yr ysbyty. Dechreuodd ymgyrch i sefydlu Cyngor Alcohol Gogledd Cymru.

Ein stori

1970 – 9fed o Fai – Plannu’r Hedyn…

Cyhoeddodd The Times erthygl di-enw gan John Pringle ble ysgrifennodd am ei brofiad o ofalu am ei fab oedd wedi cael diagnosis o sgitsoffrenia, a’r ffyrdd yr effeithiodd y diagnosis hwnnw ar y teulu. Agorodd hyn sgyrsiau o amgylch y wlad, newidiodd y ffordd yr oedd pobl yn siarad am iechyd meddwl a dechreuodd mudiad.

1972 – Sefydlu’r National Schizophrenia Fellowship – Rhagflaenydd Hafal

Ffurfiodd John Pringle y National Schizophrenia Fellowship (NSF) gan ddod â’r bedair cenedl yn y Deyrnas Unedig at ei gilydd gyda’r un genhadaeth – i fod yn lais i unigolion a’u teuluoedd/gofalwyr sy’n dioddef / cael eu heffeithio gan iechyd meddwl difrifol.

Ein stori

1979 – Yn y flwyddyn hon, ganwyd WCADA.

Sefydlodd Alan Douglas y Ganolfan am Weithredu ar Ddibyniaeth, uwchben siop ddillad fechan yn Abertawe, i ddarparu gwasanaethau cwnsela ar gyfer unigolion yr effeithir arnynt gan ddibyniaeth ar alcohol yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-Bont ar Ogwr. Tyfodd y sefydlaid gan ddod yn Ganolfan Gymraeg am Weithredu ar Ddibyniaeth (WCADA).

Ein stori

1992 – Enwir CAIS 

Mae Cyngor Alcohol Gogledd Cymru yn cael ei ail-enwi fel CAIS (Gwasanaeth Gwybodaeth Alcohol Cynghorol)

Ein stori

2003 – Mae’r NSF yn cael ei adnabod fel Hafal yng Nghymru

Mae’r NSF yng Nghymru yn troi’n Hafal – elusen annibynnol o Gymru sy’n cefnogi pobl, gofalwyr a theuluoedd sydd ag afiechydon iechyd meddwl difrifol.

2009 – Yr arwyddion cyntaf o’r hyn oedd i ddod

Sefydlwyd gwasanaeth Mentora Cymheiriaid gan Lywodraeth Cymru, i gael ei ddarparu gan bobl oedd wedi byw’r profiad. Dechreuodd CAIS, Hafal ac WCADA weithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth.

2010 – Dylanwad ar raddfa genedlaethol

Mae Hafal wedi ymgyrchu’n llwyddiannus am ddeddfwriaeth Iechyd Meddwl newydd i Gymru, sy’n cael ei hadnabod bellach fel y Mesur Iechyd Meddwl gyda Defnyddwyr Gwasanaethau a Gofalwyr wrth wraidd yr ymgyrch.

Ein stori

2017 – Partneriaeth newydd o’r hen

Daeth pedair cenedl wreiddiol NSF y Deyrnas Unedig gyfan yn ôl at ei gilydd i ffurfio Mental Health UK.

2017 – Mae Hafal yn uno â Crossroads Gofal Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Ein stori

2017 – Dechrau Adferiad

Mae CAIS, Hafal ac WCADA yn creu Adferiad Recovery, elusen a grëwyd mewn partneriaeth rhwng y tri sefydliad i ddechrau cydweithio ar ddarparu gwasanaethau sy’n cyd-ddigwydd ar draws Cymru.

Ein stori

2019 – Adferiad yn penodi’r Llywydd Gydol Oes cyntaf  Mae cyn Gadeirydd Hafal, Elin Jones yn dod yn Lywydd Gydol Oes cyntaf yr elusen, i’w chynrychioli ar lefel leol a chenedlaethol, ac ymgyrchu ar ran ei haelodau am well gwasanaethau a chymorth.

Ein stori

2020 – Mae Adferiad yn parhau i dyfu

Ystafell Fyw Caerdydd yn dod yn rhan o Adferiad

Ein stori

2021 – Adferiad, fel y’i hadwaenir

CAIS, Hafal ac WCADA yn dod at ei gilydd i uno – ac fe aned Adferiad.  Gan gyfuno’r sgiliau, y wybodaeth a’r arbenigedd ym meysydd camddefnydd sylweddau, iechyd meddwl, tai, cyfiawnder troseddol, cyn-filwyr, gofalwyr, gamblo a chyflogaeth a chefnogaeth i ddiwallu anghenion y bobl sydd ei angen fwyaf, gydag un ymagwedd unedig  a chynhwysfawr i ddarparu gwasanaethau o safon.