Cyhoeddodd Brifysgol Caerdydd ystadegau’n ddiweddar oedd yn dangos fod mwy na thair gwaith y nifer o o bobl sy’n cael eu rhyddhau o’r carchar yn cysgu allan na’r hyn oedd wedi ei adrodd yn flaenorol, cynnydd o 210%. Dengys ffeil ffeithiau ‘Carchardai yng Nghymru’ y Weinyddiaeth Cyfiawnder gynnydd rhwng 2022 – 2023 o 225 o bobl yn cysgu allan yn dilyn eu rhyddhau.
Yn ôl ym mis Chwefror 2023, agorodd Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, seminar a gynhaliwyd gan Adferiad Recovery ar y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Roedd y seminar hon yn hyrwyddo gwaith cydweithiol rhwng gweithwyr proffesiynol a’r rhai â phrofiad byw a chasglwyd mewnwelediadau gwerthfawr i adferiad ac adsefydlu o fewn y system cyfiawnder troseddol.
Ymhlith nifer o faterion eraill, galwodd Adferiad am weithredu i sicrhau, pan mae pobl yn cael eu rhyddhau o’r carchar, eu bod yn cael eu darparu gyda mynediad i gefnogaeth tai fel blaenoriaeth, yn ogystal ag arian digonol a chyngor ariannol addas.
Galwn eto am flaenoriaethu’r gweithredu hwn.
Os hoffech ddarllen ein adroddiad, gallwch ddod o hyd iddo yma yn y Saesneg, ac yma yn y Gymraeg
I ddarllen erthygl Nation.cymru yn trafod hyn yn llawn, cliciwch yma os gwelwch yn dda