Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Cymru di-fwg: Strategaeth hirdymor Cymru ar gyfer rheoli tybaco. Mae hwn yn gynllun i roi terfyn ar ysmygu fel nodwedd sylweddol o fywyd yng Nghymru erbyn 2030 ac fe gafodd groeso eang a’i weld yn hygred yng nghyd-destun y cwymp cyflym mewn ysmygu a’r twf yn y cydnabyddiad y byddai’n well i bawb os byddwn yn rhoi’r gorau i dybaco unwaith ac am byth. Hoffwn wneud yr achos dros wneud yr un peth gyda chyffuriau anghyfreithlon.
Mae Adferiad yn bodoli i helpu pobl i adfer o gaethiwed a phroblemau iechyd meddwl – ac mae’r ddau’n aml yn mynd law yn llaw. Cawn ein harwain gan bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau, ac mae ein bwrdd ymddiriedolwyr yn cynnwys pobl sydd wedi profi caethiwed, gyda llawer o’n staff hefyd â phrofiad byw – dyna sy’n eu gwneud mor effeithiol fel therapyddion. Rydym oll yn rhannu’r nod o ddod â diwedd i’r trallod a’r gwastraff a achosir gan gyffuriau ac rydym yn credu y gellir ei gyflawni os yw’r ewyllys yno gan y llywodraeth – ac fe wyddom fod yr ewyllys yno’n barod yn y gymuned ehangach, yn enwedig yn y cymdogaethau hynny sy’n dioddef lefel uchel o ddefnydd cyffuriau a’i effaith ehangach ar iechyd, troseddu ac anhrefn.
Ac eto mae amharodrwydd ymhlith gwleidyddion ac eraill mewn awdurdod i ymrwymo i gael gwared o gyffuriau o’n cymdeithas; yn wir, mae lefel sylweddol o gefnogaeth ymhlith llunwyr polisi i normaleiddio defnydd cyffuriau gan dderbyn defnydd mwy diogel o gyffuriau fel nod digonol, lleihau’r orfodaeth gyfreithiol neu hyd yn oed gwneud cyffuriau’n gyfreithlon. Pam fyddai hynny?
Tua hanner can mlynedd yn ôl roedd lleiafrif sylweddol oedd yn meddwl nad oedd cyffuriau’n gwneud llawer o ddrwg a’i fod yn fater o ddewis personol beth bynnag. Nid oedd hon yn farn a rennir gan gymdeithas yn gyffredinol ac roedd defnydd anghymesur o orfodi’r gyfraith i’w wahardd; yn y cyfamser ni wnaethpwyd lawer i helpu’r rhai hynny oedd yn dioddef o gaethiwed.
Nid oedd yn syndod felly fod pobl wedi dechrau meddwl petai gorfodaeth oedd yr ymagwedd gywir. Ar ben hynny, roedd y defnydd o gyffuriau’n cynyddu ac yn cael ei dderbyn gan leiafrif sylweddol. Os mai hyn oedd y dyfodol, yna roedd yn gwestiwn teg i ofyn os oedd angen dod i ddygymod â chyffyriau, er nad oedd hyn ychwaith yn argyhoeddi’r cyhoedd na’r awdurdodau.
Mae llawer wedi newid erbyn heddiw. Mae effeithiau dinistriol caethiwed yn hysbys, ac mae hyd yn oed canabis – y teimlwyd ers tro i fod yn eithriad diniwed – wedi profi i fod yn gaethiwus ac yn achos sylweddol o salwch seicotig (gwyddom lawer am hyn yn Adferiad drwy ein gwaith yn cefnogi pobl gyda salwch meddwl difrifol). Mae’r amharodrwydd i fynd i’r afael â chyffuriau’n parhau ac eto mae ymagwedd fwy oddefgar a ffatalaidd yn dal i gael ei gweld yn flaengar a synhwyrol gan lawer mewn awdurdod. Beth sy’n mynd ymlaen?
Ymddengys mai’r broblem yw nad yw pobl wedi cadw i fyny – nid yn unig gyda’r dystiolaeth gynyddol o’r niwed a achosir gan gyffuriau, ond hefyd gyda chanfyddiad cymdeithas o gyffuriau. Efallai nad yw rhai mewn awdurdod yn ymwybodol o hyn, ond nid yw’r defnydd o gyffuriau wedi profi i fod yn arferiad sy’n cynyddu’n wastadol: i’r gwrthwyneb, bu gostyngiad dramatig yn y defnydd o gyffuriau yn ystod y 25 mlynedd diwethaf. Mae’r defnydd o gyffuriau yn gostwng – yn fawr: dylai’r llywodraeth symud ochr yn ochr a’r tuedd hwn, yn hytrach na’i beryglu. Yn y cyfamser, mae marwolaethau oherwydd cyffuriau ymhlith defnyddwyr hŷn yn codi – fel canlyniad i’r cyfraddau defnydd hanesyddol uwch sy’n reswm arall i roi cyffuriau y tu ôl i ni.
Mae’r rhai sy’n dadlau dros y defnydd o gyffuriau yn crybwyll tystiolaeth o ddadleuon eraill y dylid eu hystyried hefyd…
Nodir bod trin pobl sy’n defnyddio cyffuriau fel troseddwyr yn wrthgynhyrchiol. Ond, mewn gwirionedd, ychydig iawn o bobl sy’n defnyddio cyffuriau sy’n cael eu herlyn: ac mae hynny’n iawn hefyd – mae’n anghymesur ac yn ddi-fudd yn y rhan fwyaf o amgylchiadau. Ond mae gan ddad-droseddoli gwirioneddol o’u defnydd, neu roi’r gorau i orfodaeth, ganlyniadau mawr, a’r pennaf o’r rhain fyddai gwneud y defnydd o gyffuriau’n weledol ac yn “dderbyniol” ym mywyd o ddydd i ddydd. Edrychwch ar y drychineb mae’r entrepreneur a’r dyngarwr Cymreig, Michael Moritz, wedi tynnu sylw ati yn San Francisco ble mae cael gwared o’r mesurau i reoli cyffuriau wedi troi llawer o ganol y ddinas yn ardal frawychus ac anobeithiol ble na all trigolion cyffredin fynd. Mae angen y gyfraith i gadw trefn, i adlewyrchu ffieidd-dra haeddiannol cymdeithas tuag at gyffuriau, ac atal pobl agored i niwed rhag cael eu temtio i’w defnyddio.
Dywedir hefyd y byddai dad-droseddoli’r cyflenwi yn rhoi’r troseddwyr sy’n gwthio cyffuriau allan o fusnes. Gwneir yr un ddadl yn yr Unol Daleithiau er mwyn amddiffyn cyflenwad cyfreithlon drylliau – tra’n gwadu cyfradd anweddus dynladdiad yn y wlad honno. Arwydd o anobaith fyddai i gyfreithloni rhywbeth niweidiol iawn dim ond er mwyn lleihau cyflenwad anghyfreithlon. Mae’n amlwg hefyd y byddai mynediad llawer haws a gweladwy at gyffuriau yn cynyddu defnydd, gan wrthdroi’r duedd ar i lawr.
Dau bwynt arall. Mae’n hollol gywir i brescripsiynu cyffuriau sy’n anghyfreithlon fel arall a darparu modd diogel i’w defnyddio i rai unigolion penodol sy’n dioddef yn enbyd o gaethiwed: gall hyn eu helpu i gyflawni adferiad yn ddiogel. Does gan hyn ddim i’w wneud â normaleiddio’r defnydd o gyffuriau yn y gymdeithas ehangach na gydag unrhyw syniad fod “defnydd diogel” yn nod digonol ar gyfer unigolyn neu’r rhai sy’n ei helpu. Does dim byd o’i le ychwaith ar archwilio’r defnydd o gyffuriau sydd fel arall yn anghyfreithlon ar gyfer trin salwch (y defnydd o ganabis i leddfu poen, er enghraifft): hyn yw’r achos eisioes gyda rhai opiadau, a does gan hyn ddim i’w wneud â’r defnydd o gyffuriau hamdden. Dylai’r pwyntiau hyn fod yn amlwg ond gwneir cysylltiadau ffug yn aml ac mae angen eu cwestiynu.
Mae Cymru di-gyffuriau yn bosibl os ydym yn ddigon dewr i ddilyn ein hargyhoeddiadau. Gellid gwthio’r defnydd o gyffuriau i’r cyrion yn gyflym trwy barhau i annog y lleihad mewn defnydd sydd eisioes yn gostwng tra’n parhau i roi pwysau ar y troseddwyr hynny sy’n cyflenwi. Yn y cyfamser, mae’n rhaid i ni weithio’n llawer caletach i helpu pobl sydd â phroblemau caethiwed trwy driniaeth a chefnogaeth prydlon sydd yn dosturiol ac yn bendant.
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am gefnogaeth Adferiad ar gyfer pobl a effeithir gan gaethiwed yn https://adferiad.org/
Erthygl gan: Clive Wolfendale, Cadeirydd Adferiad.
Wedi ei gyhoeddi’n wreiddiol yn y Western Mail, ddydd Llun 17 Gorffennaf, 2023.