News     20/07/2023

Archfarchnad gymdeithasol yn agor yn swyddogol ym Mae Colwyn

Archfarchnad gymdeithasol yn agor yn swyddogol ym Mae Colwyn

Mae ymddiriedolaeth St Giles Trust, mewn partneriaeth gydag Adferiad a Mentrau Cymdeithasol CAIS, wedi lansio archfarchnad gymdeithasol newydd ym Mae Colwyn heddiw, 20 Gorffennaf, i helpu pobl sy’n ei chael yn anodd i ddarparu ar gyfer eu hunain a’u teuluoedd.

Wedi ei sefydlu fel Menter Gymdeithasol, bydd Y Pantri yn ailddosbarthu bwyd, yn cynnwys cynnyrch o safon uchel, sydd wedi eu cyflenwi gan Fareshare. Mae Fareshare yn rwydwaith genedlaethol o ail-ddosbarthwyr bwyd elusennol, sy’n cynnwys 18 sefydliad annibynnol, sydd yn derbyn bwyd dros ben o safon uchel, o ar draws y diwydiant bwyd, gan ei ddosbarthu i elusennau a grwpiau cymunedol rheng flaen.

Bydd Y Pantri, sy’n anelu i helpu pobl sy’n cael trafferth oherwydd y cynnydd mewn costau byw, neu gyda lefel incwm gwario llawer îs, sydd wedi ei leoli yn lleoliad blaenorol y Porters Coffee Shop & Bistro ar Ffordd yr Orsaf, yn archfarchnad gymdeithasol o fath gwahanol.

Bydd cyfranogwyr yn cael eu cyfeirio i’r gwasanaeth, ac wedyn yn ‘tanysgrifio’ am daliad isel iawn (£3.50 yr wythnos), fyddai’n caniatáu un ymweliad wedi’i drefnu yr wythnos i siopa am gynnyrch – megis cig, grawnfwydydd, a ffrwythau a llysiau ffres, yn ogystal â derbyn cyngor ac arweiniad arbenigol a chyfrinachol un i un ar nifer o faterion allai fod yn effeithio arnynt hwy neu eu teuluoedd. Bydd y cyngor a’r arweiniad yn cael ei ddarparu gan staff a gwirfoddolwyr hyfforddedig, a llawer o ohonynt â phrofiad o’r problemau mae’r rhai hynny sy’n defnyddio Y Pantri yn eu wynebu.

Dywedodd Alun Thomas, Prif Weithredwr Adferiad: “Mae Adferiad yn falch i fod yn partneru gyda St Giles Trust Cymru gyda’r gwasanaeth arloesol hwn y mae mawr ei angen. Rydym yn cydweithio ar nifer o fentrau ac yn croesawu ein cydweithwyr o St Giles Trust Cymru i Station Court ym Mae Colwyn.

“Mae Y Pantri yn cynnig ffordd y gall pobl sy’n profi anawsterau sy’n gysylltiedig â’r cynnydd yng nghostau byw gymryd rheolaeth o’r agwedd yma o’u gwariant o ran bwyd iach a maethlon am bris rhesymol. Mae hyn yn cyd-fynd yn agos gyda’n hymgyrch eleni sef Mae’n Amser i Gymryd y Llyw, sy’n helpu pobl gyda chyngor, gwybodaeth a chymorth ymarferol i’w helpu i fordwyo drwy’r argyfwng costau byw.”

Ychwanegodd Tracey Burley, prif swyddog gweithredol St Giles Trust:

“Rydym yn falch iawn i fod yn agor ein Pantri newydd yng Nghymru, gan fynd i’r afael â’r heriau unigryw mae ein cymuned leol yn eu hwynebu. Mae’r Pantri hwn yn cynnig gobaith, gan ymateb i ansicrwydd bwyd trwy ddarparu cefnogaeth wedi’i deilwra ac adnoddau i helpu pobl i droi eu gorffennol yn ddyfodol. Drwy bartneru gyda sefydliadau lleol, anelwn i ddiwallu anghenion penodol y gymuned leol mewn ardal arfordirol. Gyda’n gilydd, anelwn i leihau tlodi bwyd yn sylweddol, i rymuso unigolion, ac i adeiladu Cymru sy’n gryfach ac yn fwy cynhwysol.”

Yn ogystal â chynnig bwyd o safon am bris gostyngol, bydd aelod staff o wasanaeth allan o waith Cyfle Cymru ar gael i ymgysylltu ac i weithio gyda chyfranogwyr sy’n defnyddio’r cynllun.

Dywedodd Marian Williams, Cyfarwyddwr Cydymaith ac Arweinydd Prosiect ar gyfer Cyfle Cymru: “Mae’r gwasanaeth allan o waith, Cyfle Cymru, yn falch i fod yn gweithio gyda chydweithwyr o Y Pantri i gynnig cefnogaeth ychwanegol i’r rhai hynny sy’n cael eu dal yn ôl gan dlodi, caethiwed, materion iechyd meddwl ac anghenion cymhleth eraill.

“Mae Cyfle Cymru yn helpu pobl a effeithir gan gamddefnydd sylweddau ac/neu gyflyrau iechyd meddwl i ddatblygu hyder ac yn darparu cefnogaeth i unigolion gael mynediad i hyfforddiant, cymwysterau a phrofiad gwaith / gwirfoddoli. Mae tîm ymroddedig o Fentoriaid Cymheiriaid yn aml yn defnyddio eu profiad byw o’u hadferiad o gamddefnydd sylweddau a phroblemau iechyd meddwl, i helpu i gefnogi eraill i mewn i waith.

“Gobeithiwn y gallwn, gyda’n gilydd, helpu i fynd i’r afael â thlodi, sicrhau cyfle cyfartal i bawb, cynyddu sgiliau, cael mwy o bobl i mewn i waith, a gwella bywydau pobl a’n cymunedau.”

Dywedodd y cynghorydd Sir Conwy, Chris Hughes: “Fel cynghorydd lleol rwy’n gweld drosof fy hun, trwy fy astudiaethau achos a’r trigolion rwy’n eu cyfarfod yn ddyddiol, yr effaith mae 10 mlynedd o lymder wedi ei gael ar ein cymuned, ac rwy’n deall y tlodi a’r anobaith mae llawer o deuluoedd lleol yn ei ddioddef.

“Mewn amser ble na ddylai unrhyw un orfod dibynnu ar fanciau bwyd i fwydo eu teuluoedd, rydym yn wynebu’r realiti caled fod yn rhaid i lawer o bobl wneud hynny.

“Mae’r bartneriaeth rhwng Adferiad, CAIS a St Giles yn un rwy’n ei groesawu. Rwy’n gwybod faint mae ei angen yn yr ardal leol, dymunaf y gorau i Y Pantri ar gyfer y dyfodol.”

Bydd Y Pantri yn cael ei redeg o dydd i ddydd gan St Giles, sydd yn rhedeg nifer o gynlluniau Pantry llwyddiannus yn Lloegr eisioes, gyda hwn eu pantri bwyd cyntaf yn Nghymru. Mae Y Pantri yn cynnig model cynaliadwy nid yn unig i leihau ansicrwydd bwyd, ond i rymuso cymunedau allan o dlodi bwyd yn barhaol.

Bydd yr archfarchnad gymdeithasol yn cyflogi dau aelod staff rhan-amser ac yn agored 4 diwrnod yr wythnos i ddechrau. Mae’r Pantri yn cael ei gyllido drwy Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru, (a weinyddir gan y WCVA.)

 

AMDAN ST GILES

Mae St Giles yn elusen arobryn sy’n defnyddio arbenigedd a phrofiad bywyd go iawn i rymuso pobl sydd ddim yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt – pobl sy’n cael eu dal yn ôl gan dlodi, ecsbloetiaeth, camdriniaeth, delio gyda phroblemau iechyd meddwl, yn cael eu dal i fyny mewn troseddu, neu gyfuniad o’r materion hyn. Mae nifer o gyflogai’r elusen wedi profi’r un amgylchiadau ac yn defnyddio eu profiadau i ysbrydoli ac i gefnogi’r rhai hynny sy’n byw drwy hynny ar hyn o bryd.

 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: media@stgilestrust.org.uk