News     30/06/2023

Ymgyrch Adferiad dros Strategaeth Iechyd Meddwl feiddgar a thrawsnewidiol i Gymru

Ymgyrch Adferiad dros Strategaeth Iechyd Meddwl feiddgar a thrawsnewidiol i Gymru

Mae Adferiad yn ymgyrchu dros Strategaeth Iechyd Meddwl i Gymru sy’n feiddgar, yn drawsnewidiol, yn ymarferol, ac yn cael ei harwain gan y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau Iechyd Meddwl. Rydym wedi rhyddhau papur briffio y gallwch ei ddarllen yma.

Trwy ein helusennau sefydlu, rydym wedi cynnal llawer o arolygon ffurfiol dros y deng mlynedd diwethaf a thu hwnt, gan ofyn yn rheolaidd ac yn gyson am farn y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl, yn ogystal â barn eu gofalwyr a’u teuluoedd. Mae dadansoddi’r ymatebion yn rhoi syniad eglur i ni o’r hyn mae ein buddiolwyr wedi bod yn ei ddweud wrthym.

Cynhaliwyd ein harolwg diweddaraf rhwng mis Hydref a Rhagfyr 2022, gyda’r pwrpas o roi’r cyfle i bobl i rannu eu barn ar yr hyn yr oeddent yn ei gredu ddylai fod yn flaenoriaethau yn y strategaeth iechyd meddwl nesaf, ac i bobl gyda phrofiad byw gael dylanwad sylweddol ar sut mae gwasnaethau’n cael eu cynllunio, eu dylunio, a’u darparu yn y dyfodol.

Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr i’r arolwg yn cytuno y dylai’r strategaeth iechyd meddwl nesaf roi’r blaenoriaeth i’r rhai hynny â’r angen mwyaf, tra’n gosod allan sut y bydd darparwyr gwasanaeth a chomisiynwyr yn cynllunio ac yn darparu gwasanaethau mewn partneriaeth gydag unigolion a’u teuluoedd ac y dylid mesur llwyddiant yn ôl pa mor gyflym mae pobl yn derbyn cymorth a pha mor effeithiol yw’r cymorth hwnnw i gyflawni adferiad.

Mae Adferiad yn cynnig fod y strategaeth iechyd meddwl newydd yn datgan mor eglur a chadarn â phosibl ei fod yn ofyniad cyfreithiol fod pawb sy’n derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd yn cael Cynllun Gofal a Thriniaeth o safon uchel ddylai gael eu cynhyrchu ar y cyd, sydd yn gosod allan ddeilliannau eglur ar gyfer adferiad.

Yn y papur briffio, rydym wedi canolbwyntio ar bwysigrwydd sicrhau fod y strategaeth iechyd meddwl nesaf yn blaenoriaethu’r angen i’r broses gynllunio gofal a thriniaeth weithio’n effeithiol, ac i ddefnyddio Cynlluniau Gofal a Thriniaeth fel offeryn pwysig ar gyfer sicrhau fod gwasanaethau’n cael eu darparu i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd ac ar gyfer cynllunio a chomisiynu’r gwasanethau hynny.

Yn yr adroddiad, rydym hefyd wedi pwysleisio pwysigrwydd yr angen i sicrhau fod y strategaeth iechyd meddwl nesaf yn ei gwneud yn eglur pwy sydd yn gyfrifol am helpu pobl ar y gwahanol lefelau angen, pryd mae’n briodol i gael mynediad i wasanaethau iechyd meddwl, a phryd mae’n briodol i ofyn am gymorth a chefnogaeth gan wasanaethau eraill. Yn olaf, credwn ei fod yn hanfodol bod y modd y caiff y ddarpariaeth ei fonitro, ei fesur a’i adrodd yn ei erbyn yn cael ei osod o fewn y strategaeth ei hun.

I ddarllen yr adroddiad llawn Cliciwch Yma os gwelwch yn dda.