Rwyf wedi cyhoeddi fy ymateb i’r Cyd-Bwyllgor ar Ddrafft y Bil Iechyd Meddwl.
Gobeithiaf y byddwch yn cytuno fy mod wedi bod yn ofalus er mwyn sicrhau fod hyn yn adlewyrchu yr hyn mae cleifion a gofalwyr wedi ei ddweud wrthyf dros y blynyddoedd, ac yn enwedig ers i mi dderbyn her Llywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig pan gytunodd i ddigwygio’r Ddeddf bresennol.
Ac rwy’n falch iawn o gyhoeddi fod Adferiad Recovery wedi cymeradwyo fy ymateb yn llawn ac maent yn cytuno ei fod yn adlewyrchu barn eu haelodaeth dorfol – nid yw hyn yn syndod oherwydd mai nhw yw’r bobl rwyf wedi bod yn sgwrsio gyda hwy wrth gwrs! Ond mae’n wych ein bod yn gallu uno ar un safbwynt eglur.
Nid hyn yw diwedd yr her wrth gwrs – mae angen i ni argyhoeddi’r Pwyllgor yma ynghylch yr hyn rydym yn sefyll drosto, ond a fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrando ar y Pwyllgor? Ac wedyn mae Llywodraeth Cymru: fyddan nhw’n rhagweithiol neu wnawn nhw gytuno gyda beth bynnag y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei benderfynu?
Yn y cyfamser, gwnaeth i mi feddwl efallai y byddai rhai pobl yn hoffi gwybod yn union beth sydd yn y Bil drafft. Gallwch ei ddarllen wrth gwrs, ond os fyddai’n well gennych ddarllen rhywbeth sy’n llawer byrach, cymerwch olwg ar ‘Jo’s 10 Point Guide to the Draft Mental Health Bill 2022’
Rwyf yn hyn am y tymor hir ac yn eich gwahodd chi i ymuno gyda mi. Gwnaf eich diweddaru ac fe awn ymlaen gyda hyn hyd y diwedd!
Mae Jo Roberts yn ymgyrchydd iechyd meddwl a gafodd ei heffeithio gan y Ddeddf Iechyd Meddwl am dros 30 mlynedd. Yn y gorffennol, mae wedi derbyn triniaeth orfodol; gyda pheth o’r driniaeth honno yn hynod annymunol ac hyd yn oed yn frawychus. Mae Jo yn ymgyrchu dros Ddeddf Iechyd Meddwl flaengar sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif – Deddf sy’n rhoi gwell chwarae teg i gleifion a gofalwyr yng Nghymru a thu hwnt.