News     14/10/2022

Cymerwch ran yn yr her gynhwysol BRIT Challenge flynyddol (23ain Ionawr i 23ain Mawrth 2023)

Cymerwch ran yn yr her gynhwysol BRIT Challenge flynyddol (23ain Ionawr i 23ain Mawrth 2023)

Mae Adferiad Recovery yn partneru gyda’r British Inspiration Trust (BRIT) i hybu a hyrwyddo’r her gynhwysol BRIT Challenge flynyddol rhwng y 23ain o Ionawr a’r 23ain o Fawrth 2023.

Darperir y BRIT Challenge i gefnogi ac i wella iechyd meddwl a ffitrwydd oedolion ifanc, myfyrwyr a staff ar draws y Deyrnas Unedig.

Gwahoddir pob prifysgol, coleg, Undeb Myfyrwyr a choleg arbenigol i gymryd rhan, ond mae’r BRIT Challenge hefyd yn agored i unrhyw dîm sy’n awyddus i helpu i gefnogi iechyd meddwl oedolion ifanc.

Gall timau gofrestru yn rhad ac am ddim o’r 23ain o Fedi 2022 yn https://www.thebritchallenge.org.uk a chodi arian ar gyfer Adferiad Recovery a BRIT yn ystod eu her BRIT Challenge.

 

Dywedodd Alun Thomas, Prif Weithredwr Adferiad: “Mae’n anrhydedd i Adferiad Recovery i fod wedi sefydlu perthynas arbennig gyda The British Inspiration Trust (BRIT) cyn yr her BRIT Challenge flynyddol, a gynhelir er mwyn cefnogi iechyd meddwl a ffitrwydd oedolion ifanc, myfyrwyr a staff ar draws y Deyrnas Unedig. Fel sefydliad sy’n gweithio gyda phobl sy’n wynebu heriau bywyd cymhleth, gwyddom os gwnawn gefnogi ein pobl ifanc yn dda, gallwn roi’r gwytnwch iddynt i wynebu’r heriau hynny. Er mwyn galluogi hyn, mae ein haddysgwyr a’n staff cefnogol yn allweddol.

“Mae gweledigaeth rhagorol BRIT i ddarparu’r her gynhwysol BRIT Challenge flynyddol yn gyfle gwych i fyfyrwyr a staff o bob gallu, ar draws Cymru, i gymryd rhan trwy nifer o wahanol weithgareddau ac i gyrraedd eu targedau pellter a chodi arian tra’n cael llawer o hwyl a gwneud ffrindiau. Mae’r her BRIT Challenge yn hyblyg er mwyn galluogi prifysgolion a cholegau i ddewis pryd maent am gymryd rhan, rhwng 23ain o Ionawr a 23ain o Fawrth 2023, ac i gynllunio eu gweithgareddau.

 

“Gall pob tîm sy’n cymryd rhan yn yr her BRIT Challenge ddewis ail elusen i godi arian ar ei chyfer, ochr yn ochr â BRIT, a gobeithiwn y bydd timau prifysgolion a cholegau Cymru yn dewis Adferiad Recovery fel eu hail elusen. Bydd hyn yn helpu i ariannu ein gwaith i gefnogi pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl – gyda phwyslais arbennig ar y rhai hynny sydd â salwch meddwl difrifol – a’u gofalwyr a’u teuluoedd. Rydym hefyd yn cefnogi eraill sydd ag ystod o anableddau, a’u gofalwyr a’u teuluoedd. 

 

“Dymunwn bob lwc i dîm pob prifysgol a choleg yng Nghymru wrth iddynt fynd i’r afael â her y BRIT Challenge.”