News     25/10/2022

Y rhaglen Positive Pathways yn codi ymwybyddiaeth yn iechyd meddwl cyn-filwyr drwy’r ‘Walk of Memorable Honour’

Y rhaglen Positive Pathways yn codi ymwybyddiaeth yn iechyd meddwl cyn-filwyr drwy’r ‘Walk of Memorable Honour’

Yn ystod yr haf, cymerodd cyfranogwyr o sefydliadau sy’n cefnogi cyn-filwyr ar draws Cymru ran yn y ‘Walk of Memorable Honour’. Gwelodd y digwyddiad nifer o deithiau cerdded a reidio beic yn cymryd lle ar draws y wlad gan deithio pellter oedd yn hafal i’r pellter o’r Troop Café yn Llandudno i Gastell Caerdydd. Roedd y gweithgareddau hyn i ddathlu tair blynedd o raglen Positive Pathways yr Armed Forces Covenant Fund Trust (AFCFT), yr oedd Adferiad Recovery yn arweinydd strategol ar ei gyfer yng Nghymru, ac i godi ymwybyddiaeth yn iechyd meddwl cyn-filwyr. Daeth y digwyddiad i ben gyda thaith gerdded o Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd i ddigwyddiad bychan yn yr Amgueddfa Firing Line yng Nghastell Caerdydd.

Daeth y syniad o ‘A Country of Memorable Honour’ gan Thomas Firbank, oedd yn gyn-filwr ei hun. Dechreuodd Thomas ei yrfa yn y fyddin fel Coldstream Guard yr yr Ail Ryfel Byd. Ar ddiwedd y rhyfel, fel Is-Gyrnol, bu’n gadlywydd yr Airborne Forces Depot ar Ynys Wyth gan dderbyn Croes Fictoria yn ystod ei gyfnod mewn gwasanaeth.

Yn ei lyfr, mae Thomas yn adrodd am daith gerdded a gymerodd o ogledd Cymru i dde Cymru, gan siarad gyda rhai a gyfarfu ar hyd y daith a darganfod ei wreiddiau Cymreig yr un pryd. Yn yr un modd, bu’r cyn-filwyr fu’n cymryd rhan yn ein ‘Walk of Memorable Honour’ yn siarad gyda phobl ar eu taith gerdded / reid feic am iechyd meddwl cyn-filwyr a sut roeddent yn teimlo am hynny. Cofnododd y cyn-filwyr y sgyrsiau hyn yn eu dyddiaduron. Bwriadwn goladu a chyhoeddi’r cofnodion hyn mewn llyfr, er mwyn codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl cyn-filwyr.