Case Study     12/05/2023

Stori Ed

Stori Ed

Mae ein rhaglen Cyfle Cymru yn helpu pobl yr effeithir arnynt gan y camddefnydd o sylweddau a/neu gyflyrau iechyd meddwl i ddatblygu hyder ac yn darparu cymorth i gael mynediad i hyfforddiant, cymwysterau, profiad gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli.

Mae Ed, defnyddiwr gwasanaeth o ardal Dyfed, wedi gwneud cynnydd anhygoel ers dechrau ar y rhaglen.
Dywedodd Mentor Cymheiriaid Ed: 
“Cyfarfyddais Ed yn ystod fy ail fis fel Mentor Cymheiriaid yng Ngheredigion. Ef oedd fy asesiad cyntaf, ac roedd yn bryderus iawn. Roedd wedi cael ei ddiagnosis o gyflwr 10 mlynedd ynghynt (canol ei arddegau) ac roedd yn gaeth i’r tŷ ac yn aml yn gaeth i’r gwely. 

“Roedd Ed hefyd wedi datblygu caethiwed i godin dros y blynyddoedd ac roedd yn ymwybodol bod angen mynd i’r afael â’r swm yr oedd yn ei ddefnyddio.
“Pan gefais fy nghyflwyno i Ed, ni allai ond edrych ar y llawr ac roedd ei lais yn grynedig oherwydd nerfau a phryder.  

“O fewn y chwe wythnos cyntaf, roeddem wedi cyfarfod nifer o weithiau, a’i hyder yn amlwg yn tyfu. Roeddwn wedi dod o hyd i gyfle gwirfoddoli iddo yn didoli archifau ac yn mewnbynnu data yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Gofynnodd Ed i mi fynd gydag ef gan ei fod yn nerfus iawn. Cyflwynais ef i’r Cydlynydd Gwirfoddolwyr a’u dilyn i mewn i’r llyfrgell. O few tua 10 cam, trodd ataf gan ddweud, “Dwi’n meddwl fyddai’n iawn rwan os wyt ti ddim eisiau aros.” – Am drawsnewidiad mewn ychydig wythnosau! 

“Oddeutu trydydd mis Ed gyda Cyfle Cymru, cyfarfuom am adolygiad 1-1. Dywedodd wrthyf, “Alla’i ddim credu faint yn well yr wyf yn teimlo mewn dim ond 6 mis”. Roedd ychydig allan ohoni gyda’i ddyddiadau! Pan eglurais i mai dim ond 3 mis oedd wedi pasio, roedd yn amlwg pa mor falch ydoedd gyda’i gynnydd ac roedd yn manteisio ar bob cyfle a gynigiwyd iddo.

“Erbyn hyn mae Ed wedi pasio ei brawf gyrru, yn cael ei gyflogi ac wedi ennill nifer o dystysgrifau drwy Cyfle Cymru a sefydliadau eraill. Mae’n treulio 2 ddiwrnod yr wythnos yn y Llyfrgell Genedlaethol, yn ogystal â gweithio rhan-amser, yn gwirfoddoli i Wasanaeth Bwyd Dros Ben Aberystwyth, yn mynychu cyrsiau coetir yn rheoliadd, yn mynychu pob gweithgaredd grŵp sydd ar gael, ac o feddwl ei fod ofn ei gysgod ei hun brin 12 mis yn ôl, mae’n rhywbeth sy’n galonogol i’w weld.

“Ed oedd y person cyntaf, ond nid yr olaf o bell ffordd, a ddangosodd i mi swydd pa mor werth chweil yw Mentora Cymheiriaid i Cyfle Cymru a faint o wahanaieth mae’n ei wneud i’r cyfranogwyr rydym yn gweithio gyda hwy. Diolch am roi’r cyfle i mi i weithio gydag Ed.”