News     16/06/2021

Adferiad Recovery yn ymateb i gyhoeddiad Prif Weinidog am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru

Adferiad Recovery yn ymateb i gyhoeddiad Prif Weinidog  am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru

Heddiw, roedd y Prif Weinidog  Mark Drakeford wedi cyhoeddi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru am y bum mlynedd nesaf sydd yn cynnwys cynyddu buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl a thalu cyflog byw go iawn i ofalwyr.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Prif Weithredwr Adferiad Recovery Alun Thomas: “Mae ein haelodau yn croesawu’r cynnydd mewn buddsoddiad ym maes gwasanaethau iechyd meddwl – rhywbeth yr ydym wedi bod yn ymgyrchu o’i blaid – a’r gydnabyddiaeth o’r rôl hanfodol y mae gofalwyr yn ei chwarae.

“Rydym yn poeni bod angen targedu’r cyllid ychwanegol i’r llefydd y  mae ei angen fwyaf. Er enghraifft, ni ddylid dargyfeirio cyllid ar gyfer iechyd meddwl i gefnogi cyfrifoldebau’r gwasanaethau a ddarperir i’r cyhoedd i ddiogelu iechyd meddwl eu cleientiaid; rhaid iddo ffocysu ar y sawl sydd a’r anghenion dwysaf sydd yn medru elwa ohono fwyaf. Mae hyn, wrth gwrs, yn gwneud synnwyr economaidd: os ydych yn cefnogi rhywun ag afiechyd meddwl difrifol tuag at adferiad, mae’n lleihau’r gost o ofal yn sylweddol.

“Yn fwy na hyn, rydym yn gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i ddarparu gwasanaethau cynhwysfawr, holistaidd i bobl sydd ag anghenion cymhleth sy’n cyd-ddigwydd ac mae angen brys i ffocysu adnoddau ar y grŵp yma o gleifion bregus na sydd yn derbyn y gefnogaeth haeddiannol.

“Dylid sicrhau gwerth am arian bob tro er mwyn sicrhau bod gwasanaethau comisiynu yn gwbl seiliedig ar anghenion cleifion, fel sydd wedi ei nodi yn eu cynlluniau gofal.

“Yn ein maniffesto ar gyfer Etholiad y Senedd, dywedom na ddylai neb ddisgyn rhwng y lefelau gwahanol o gymorth a dylent dderbyn atgyfeiriad positif bob tro at ffynhonnell briodol o help, ac felly, rydym yn falch o weld ymroddiad yn rhaglen Llywodraeth Cymru i hyrwyddo dull ‘nid oes drws anghywir’ at gymorth iechyd meddwl.

“Rydym hefyd yn croesawu’r ffaith y bydd gwasanaethau iechyd meddwl i blant a’r glasoed  (CAMHS) yn cael eu cyflwyno’n fewnol ar draws ysgolion yng Nghymru, er bod hyn yn golygu y dylai CAMHS weithio, ar lefel ymarferol, gydag ysgolion er mwyn helpu sicrhau tra bod disgyblion sydd yn chwilio am help yn derbyn atgyfeiriad positif, dim ond y rhai sydd â’r anghenion dwysaf sydd yn derbyn cymorth gan CAMHS.

“Fel mudiad sydd yn cael ei arwain gan gleifion a gofalwyr, byddem yn croesawu’r cyfle i gynnig cyngor a chanllawiau i Lywodraeth Cymru ar weithredu ei flaenoriaethau a’n cynnwys cleifion a gofalwyr ar bob cam.”