News     22/06/2021

Wythnos Lluoedd Arfog 2021: Ysgrifennydd Cymru yn dysgu am wasanaethau arloesol Adferiad Recovery, sef Change Step, ar gyfer cyn-filwyr yn ystod ymweliad â Chaerdydd

Wythnos Lluoedd Arfog 2021: Ysgrifennydd Cymru yn dysgu am wasanaethau arloesol Adferiad Recovery, sef Change Step, ar gyfer cyn-filwyr yn ystod ymweliad â Chaerdydd

Er mwyn dathlu Wythnos y Lluoedd Arfog (21- 27 Mehefin 2021), roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, a’r Gweinidog dros Amddiffyn, Pobl a Chyn-filwy,r Leo Docherty, wedi ymweld gyda swyddfa  Adferiad Recovery yng Nghaerdydd heddiw er mwyn dysgu am y gwaith hanfodol sydd yn cael ei wneud gyda chyn-filwyr ar draws Cymru gan wasanaeth Change Step yr Elusen.

Mae Wythnos y Lluoedd Arfog yn cynnig y cyfle i’r cyhoedd i ddarganfod mwy am waith Lluoedd Arfog y DU ac yn dangos cefnogaeth at aelodau o’r lluoedd arfog a’u teuluoedd, y cadéts a’r cyn-filwyr. Yn ystod eu hymweliad heddiw, roedd Mr Hart a Mr Docherty wedi cael y cyfle i gwrdd â chyn-filwyr sydd yn cael eu cefnogi gan Change Step, sydd yn darparu ystod o wasanaethau i gyn-filwyr ar draws y wlad gan fynd i’r afael gyda materion fel afiechyd meddwl, caethiwed ac unigrwydd. Mae  Change Step hefyd yn cefnogi mudiadau i gael mynediad at gyllid Rhaglen Llwybrau Positif o’r Armed Forces Covenant Trust Fund (AFCFT), gan gefnogi a mentora’r prosiectau sydd yn llwyddiannus.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Arbenigol Adferiad Recovery, Lisa Shipton: “Roeddem wrth ein bodd yn croesawu’r gwesteion i’n swyddfa yng Nghaerdydd gan eu diweddaru ar y ffyrdd niferus y mae  Change Step yn cefnogi cyn-filwyr ar draws Cymru.

“Mae Wythnos y Lluoedd Arfog yn gyfle gwych i ddathlu’r cyfraniad y mae pobl yn y lluoedd arfog yn gwneud i’w gwlad, ond i gofio hefyd bod cyn-filwyr, wedi blynyddoedd o wasanaethu, yn medru wynebu nifer o heriau.

“Mae Change Step yn darparu gwasanaethau ar draws Cymru sydd yn cefnogi’r cyn-filwyr hynny yn uniongyrchol. Mae llawer o’n gwasanaethau yn cael eu harwain gan gyfoedion gan ein bod yn gwybod bod cyn-filwyr yn gweithio’n dda ag eraill sydd wedi bod yn gwasanaethu; maent hefyd yn mabwysiadu dulliau arloesol; er enghraifft, rydym ar fin lansio gwasanaeth newydd i gyn-filwyr a fydd yn hyrwyddo therapi syrffio, rydym yn darparu therapi celf ar-lein ac mae ein hyb cymunedol  Troop Café yn dwyn cyn-filwyr ynghyd o ogledd Cymru.

“Roedd yn bleser cyflwyno  Mr Hart a Mr Docherty i rai o’n cleientiaid sydd wedi elwa o’r gwasanaethau yma gan  Change Step sydd wir eu hangen.”