News     20/05/2021

Adferiad Recovery i lansio Enfys – gwasanaeth cwnsela newydd ar gyfer gweithwyr gofal iechyd.

Adferiad Recovery i lansio Enfys – gwasanaeth cwnsela newydd ar gyfer gweithwyr gofal iechyd.

O ystyried y pwysau cynyddol sy’n cael ei wynebu gan y rhai yn y proffesiwn meddygol o ganlyniad bandemig COVID-19, mae gwasanaeth cwnsela newydd yn cael ei lansio yng Nghymru i gefnogi gweithwyr gofal iechyd sy’n mynd i drafferthion gyda materion sy’n ymwneud ag iechyd meddwl, alcohol, camddefnyddio sylweddau neu ymddygiadau niweidiol eraill. Bydd gwasanaeth Enfys yn cael ei lansio’n ffurfiol ar 1 Mehefin 2021 trwy ddigwyddiad ar-lein

Mae gweithwyr gofal iechyd yn boblogaeth mewn risg anghymesur o ddatblygu anhwylderau dibyniaeth ac iechyd meddwl gwael, sydd yn achos pryder yn dilyn blwyddyn derfysglyd ar gyfer y sector. Bydd Enfys yn cynnig pecynnau cwnsela cyfrinachol sydd wedi’u teilwra i anghenion yr unigolyn, yn ogystal â gallu darparu cefnogaeth i’w partneriaid a’u teuluoedd. Y nod yw darparu cefnogaeth barhaus ac ôl-ofal fydd yn helpu gweithwyr gofal iechyd sydd yn cael anhawster gyda dibyniaeth, neu faterion iechyd meddwl i gynnal newidiadau parhaol yn eu bywydau. Bydd y gwasanaeth yn cael ei reoli gan Adferiad Recovery ac ar gael ar draws Gymru.

Dywedodd Alun Thomas, Prif Weithredwr Adferiad Recovery: “Rydym wrth ein boddau yn lansio’r gwasanaeth hanfodol newydd yma fydd yn darparu cefnogaeth sy’n fawr ei angen ar gyfer gweithwyr gofal iechyd yng Nghymru.

“Mae gweithwyr gofal iechyd wedi arfer hefo gweithio o dan bwysau ond yn y flwyddyn ddiwethaf mae COVID-19 wedi rhoi mwy o straen ar eu bywydau. Mae eu gwasanaeth yn ystod y pandemig wedi bod yn amhrisiadwy, felly rydym yn falch i allu cynnig gwasanaeth hyblyg ac amserol iddynt.

“Bydd Enfys yn darparu cefnogaeth barhaol i weithwyr gofal iechyd sydd mewn perygl o ddatblygu anhwylderau dibyniaeth ac iechyd meddwl gwael, ac yn rhoi cyfle iddyn nhw adfer a chyflawni newid parhaol.

“Bydd hwn ddim yn unig o fudd i’r unigolion dan sylw, ond hefyd i ofal iechyd yng Nghymru yn ei chyfanrwydd.”

Ychwanegodd Wynford Ellis Owen, Ymgynghorydd Cwnsela Arbenigol Adferiad Recovery, “Rydym mewn sefyllfa freintiedig i allu helpu’r cynorthwywr, ac i gynnig iddo fo neu hi’r un gefnogaeth a gofal maent wedi’u cynnig yn anhunanol i eraill.

“Mae Enfys yn defnyddio dull adferiad eang ei sail – yn defnyddio ystod o ddulliau a therapïau sydd yn rhoi gwell cwmpas i bobl i allu cyflawni adferiad parhaol. Mae Enfys yn rhoi chi yn y sedd yrru; cewch chi yrru eich bws adferiad eich hun – cawn ni y fraint o gael eistedd yn y sêt gefn, talu am y petrol, a dod hefo chi am y daith. Ac am daith ydy hi! Y daith fwyaf cyffrous sy’n bod – taith o hunanadnabyddiaeth”.