Newyddion     04/11/2025

Aelod staff Iechyd Meddwl Adferiad i gystadlu ym Mhencampwriaethau Dyn Haearn y Byd

Aelod staff Iechyd Meddwl Adferiad i gystadlu ym Mhencampwriaethau Dyn Haearn y Byd

Bydd Barbara Cook, sy’n 67 mlwydd oed,  yn un o’r cystadleuwyr benywaidd Cymreig hynaf i gymryd rhan yn y digwyddiad triathlon enwog. 

Nid yw’r Ymarferydd Adferiad gydag Adferiad yn anghyfarwydd â digwyddiadau gwytnwch, gan iddi fod yn redwr marathon cyn penderfynu symud i’r digwyddiadau triathlon pan yn 60 mlwydd oed er mwyn ceisio lledaenu’r effaith ar ei chorff. 

Mae Barbara yn gweithio yn Rhydaman, gan ddarparu cefnogaeth iechyd meddwl i unigolion sy’n wynebu diagnosis o salwch meddwl ers dros 17 mlynedd Adferiad. 

Mae’r nain i dri yn gobeithio codi ymwybyddiaeth yn yr effaith bwerus y gall ffitrwydd ei gael i unigolion sydd â salwch meddyliol, ac yn credu “nad oes unrhyw beth yn amhosibl” i bobl.

“Rwy’n credu’n gryf yn yr effaith y gall ffitrwydd ei gael ar bobl. P’un ai yw rhywun â phroblemau iechyd meddwl neu beidio, mae ffitrwydd yn helpu i roi strwythur a phwrpas i bobl.  

“Rwy’n dweud hyn wrth y bobl rwy’n eu cefnogi drwy’r amser: nid oes yn rhaid i chi wneud unrhyw beth yr ydw i yn ei wneud, ond rwy’n meddwl ei fod yn bwysig gwneud pethau fel codi a mynd allan i gerdded” ” meddai.  

Mae Barbara’n annog cleientiaid ei gwasanaeth i gael ffordd o fyw iach, yn cynnwys nofio a chael mynediad i’r gampfa, fel sydd ganddi hi yn ei hamserlen ymarfer ddyddiol.

Gofynnir i’r athletwr gwytnwch yn rheolaidd am ei gweithgareddau gan ddefnyddwyr gwasanaeth, gyda dau aelod yn gwirfoddoli i weithredu fel mecanyddion ar gyfer ei beic.

Dechreuodd ei hangerdd am ffitrwydd corfforol yn cyd-fynd â iechyd meddyliol pan roedd yn cefnogi unigolion ag anhwylder deubegwn i ailddarganfod eu cariad tuag at reidio beic.

“Daeth gofalwr atom ynghylch aelod o’r teulu oedd ag anhwylder deubegwn ac i ofyn os y gallem eu cefnogi i reidio eu beic.  

“Roedd yr unigolyn yma wedi treulio tua chwe mis mewn ysbyty seiciatrig, roedd eu gofalwr yn chwilio am gyfleoedd i helpu gyda’u llesiant.  

“Roeddem gyda hwy bob cam o’r ffordd, siaradom gyda seiciatryddion ynghylch sut fyddai orau i’w gyflawni.  

“Ar y reid gyntaf, syrthiodd i ffwrdd ond ni stopiodd hyn hwy, ac fe symudom ymlaen i nofio mewn dŵr oer yn raddol.  

“Wedi hynny, gwnaethant benderfynu cymryd rhan mewn triathlon, rhoddasom lawer o gefnogaeth a hyfforddiant iddynt ac roeddent yn llwyddiannus. Rwy’n cofio gweld eu gofalwr yn torri lawr mewn dagrau wrth y llinell derfyn.  

“Ni fyddwn yn dweud wrth unrhyw un i wneud triathlon, ond os byddai rhywun yn dymuno gwneud, byddem yn gwneud yn siŵr bod popeth yn ei le, ac os y byddent yn rhoi’r ymarfer a’r gwaith caled i mewn, bod ganddynt y siawns i gyrraedd eu nod.”  

“Nid yw iechyd meddwl yn rhwystr i iechyd a ffitrwydd” meddai.  

Enillodd Barbara’r gystadleuaeth Dyn Haearn Copenhagen 2024 yn flaenorol, gyda’r amser llethol o 14 awr, 17 munud ac 17 eiliad, gan ddod yn gyntaf yn ei grŵp oedran (65-69).

I“Rwy’n cael gwefr o allu cystadlu gyda’r dynion, ond mae fy ffocws ar godi ymwybyddiaeth y gall ffitrwydd fod ar wahanol lefelau a helpu pawb” meddai.” she said.  

Mae Barbara nawr wedi cymhwyso ar gyfer y bencampwriaeth 2025 IRONMAN 70.3 World Championship, wedi ei leoli ym Marbella, Sbaen, i gystadlu yn erbyn rhai o’r athletwyr cryfaf o o amgylch y byd i gyd ym mhencampwriaeth y byd yr Ironman 70.3 World Championship, sy’n cynnwys nofio 1.9km yn y môr, ras feics fynyddig 90.1km a rhedeg 12.1km ar y gwastad.

Tra’n datgan mai “dim ond rhif yw oed”, mae Barbara yn gobeithio ysbrydoli eraill i ddechrau eu siwrnai ffitrwydd, beth bynnag yw eu hoed.

“Nid yw iechyd meddwl yn rhwystr i bobl a’u ffitrwydd, ac mae’r rhai hynny sydd wedi treulio misoedd mewn unedau seiciatrig yn cael eu hanghofio yn aml ac yn cael eu hystyried yn aml fel bod yn analluog i wneud unrhyw beth. 

“Os ydych chi’n rhoi amser ac anogaeth i rhywun, rwyf wedi darganfod nad yw hyn yn wir”, meddai.

Mae Barbara Cook yn barod i gystadlu ar Ddydd Sadwrn, yr 8fed o Dachwedd.