Newyddion     08/10/2025

Tŷ Harrington yn derbyn clod fel “gwasanaeth Hanfodol” gan Faer Lleol

Tŷ Harrington yn derbyn clod fel “gwasanaeth Hanfodol” gan Faer Lleol

Mae Tŷ Harrington wedi derbyn clod gan Faer Rhondda Cynon Taf, Sheryl Evans, ar ei ddiwrnod agored, gan ddisgrifio’r hwb Iechyd Meddwl fel “gwasanaeth hanfodol” i’w hardal leol.

Mynychwyd yr hwb gan bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth a staff i ddathlu, gan arddangos y gwaith gwerthfawr mae Adferiad yn ei ddarparu yn Rhondda Cynon Taf, yn cynnwys Hybiau a Gwasanaethau  Llety â Chefnogaeth Cwm Taf.

Mynychwyd y digwyddiad gan y Cynghorydd Sheryl Evans, Maer Rhondda Cynon Taf, i ddysgu mwy am y gwaith hanfodol a ddarperir yn yr ardal.

“Diolch am fy ngwahodd heddiw. Rwyf wedi cael diwrnod bendigedig, yn dysgu am sut mae Adferiad yn cefnogi’r gymuned ynghyd â’r profiad sydd gennych.

Mae’n hyfryd cyfarfod rhai o’ch defnyddwyr gwasanaeth yma heddiw. Rwyf wedi cymryd ychydig o bamffledi ac wedi tynnu lluniau i’w rhannu gyda’n etholwyr.

Gallaf ddweud wrthynt y gallent fod yn hyderus i ddod i’r gwasanaeth hanfodol yma ble gallent gael unrhyw help sydd ei angen arnynt. Mae yna gymaint o ddigwyddiadau ar gael ar gyfer y cyhoedd, hir y bydded iddo barhau.”


Dangoswyd waith i’r ymwelwyr a grëwyd gan fynychwyr rheolaidd, gan arddangos sgiliau crefft, paentiadau a garddio; a’r hyn oll wedi ei anelu at gefnogi unigolion gyda’u Hiechyd Meddwl.

Mae’r amgylchedd yn sicrhau gofod diogel, ble gall pobl ddod at ei gilydd mewn lleoliad grŵp i gefnogi ei gilydd ac i greu cymuned glos.

Wedi ei leoli ym Mhentre, mae’r hwb hefyd yn cynnig ‘gofod tawel’ ble gall unigolion ymweld pan mewn argyfwng.

Y Cynghorydd Sheryl Evans, Maer Rhondda Cynon Taf gyda defnyddwyr gwasanaeth ac ymwelwyr


Dangosodd fynychwyr lleol bwysigrwydd hybiau o’r fath ar eu teithiau iechyd meddwl nhw eu hunain, gan gefnogi eu llesiant eu hunain.

Mae Alan wedi mynychu’r hwb am y 10 mlynedd diwethaf, i helpu gyda’i heriau ef ei hun o lywio straen, gorbryder ac iselder.

“Rwyf wedi bod yn dod yma ers blynyddoedd ac rydym yn gwneud pob math o bethau yma o baentio i grefftau, rwyf wedi gwneud ffrindiau yma rwyf yn eu gweld yn rheolaidd ac yn treulio amser gyda nhw. Mae’n grŵp agos ac nid wyf yn gwybod ym mhle y byddwn i hebddo.”

Roedd gwaith celf a grëwyd gan fynychwyr yr hwb ar ddangos


Canmolodd Jason Cockings, y Pennaeth Gwasanaeth ar gyfer y Gymuned, y gwaith hanfodol a wneir gan aelodau o’r staff lleol, gan ddarparu cefnogaeth iechyd meddwl mewn ardaloedd gwledig o Gymru.

“Mae hybiau Cwm Taf, fel rhan o wasanaethau ehangach Adferiad, yn falch i fod yn gweithio yng nghalon ein cymunedau ar draws Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

Trwy bartneriaeth a ariennir gyda Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, rydym yn cefnogi gwasanaethau iechyd meddwl y GIG trwy ddod â phobl at ei gilydd a effeithir gan a sydd â phryderon ynghylch eu hiechyd meddwl.

Mae ein hybiau yn cynnig gweithgareddau ystyrlon sy’n meithrin cysylltiad, sy’n hyrwyddo llesiant, ac yn cysylltu unigolion gyda darparwyr cefnogaeth lleol – gan adeiladu cymunedau sy’n gryfach ac yn fwy gwydn.”