Newyddion     14/11/2025

Adferiad yn Lansio Tuag at Ddyfodol Tecach: Blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth Nesaf Cymru

Adferiad yn Lansio Tuag at Ddyfodol Tecach: Blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth Nesaf Cymru

Heddiw, rydym yn gyffrous i gyhoeddi ‘Tuag at Ddyfodol Tecach: Blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth Nesaf Cymru’ gan Adferiad – set o alwadau clir i weithredu arnynt sy’n dangos yr hyn yr ydym yn sefyll drosto, a’r newid yr ydym am ei weld yng Nghymru, cyn etholiad y Senedd 2026 sy’n ddod.

Mae’r ffeithiau yn anodd eu hanwybyddu: mae llawer o bobl sy’n byw gyda phroblemau iechyd meddwl yn cael eu hanghofio, eu gadael ar ôl, a’u colli mewn system dameidiog – ond gall hyn i gyd cael ei atal. Mae ein 5 blaenoriaeth yn adlewyrchu’r newidiadau yr ydym yn credu sydd eu hangen i gryfhau cymorth iechyd meddwl, defnyddio sylweddau, a systemau cymorth ehangach ledled Cymru.

  1. Integreiddio Gwasanaethau Iechyd Meddwl a Defnydd Sylweddau
  2. Darparu Cefnogaeth Mynediad Agored yr un Dydd
  3. Ymrwymo i Gyllido Tymor Hir i Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  4. Darparu Deddf Iechyd Meddwl i Gymru
  5. Datblygu Cydgysylltiad mewn Cynllunio Gofal a Thriniaeth

Nid targedau yn unig yw’r blaenoriaethau hyn; maent wedi’u hadeiladu ar leisiau’r staff a’r rhai rydyn ni’n eu cefnogi bob dydd, gan adlewyrchu bywydau go iawn, anghenion a brwydrau pobl go iawn sy’n byw gyda salwch meddwl a dibyniaeth. Wedi’i gasglu trwy’r arolwg ‘Tell Us’ a gynhaliwyd trwy’r haf, mae’n adlewyrchu’r pethau y mae ein buddiolwyr wedi dweud wrthym eu bod yn fwyaf pwysig iddynt, a bydd yn llywio ein hymgysylltiad gwleidyddol yn y dyfodol. Mae hyn yn allweddol i’n sefydliad a’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi oherwydd mae’n ein helpu i droi profiad go iawn yn weithredu go iawn. Gyda phenderfyniadau dibynadwy sy’n ystyried yr effaith ar les meddyliol, arweinyddiaeth glir, a chyllid digonol, gallwn ail-lunio’r system o amgylch atal, mynediad a thegwch.

Rydym yn eich annog i ddarllen ein blaenoriaethau yn llawn, a dangos eich cefnogaeth drwy rannu’n eang, gan gynnwys gyda’ch cynrychiolydd lleol yn y Senedd, i’n cefnogi i ysbrydoli newid cadarnhaol i bobl sy’n byw gyda salwch meddwl a dibyniaeth ledled Cymru.

Gallwch ddarllen ein dogfen Tuag at Ddyfodol Tecach yn llawn yma.