Fel rhan o Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr, mae Adferiad yn rhoi’r sylw ar leisiau profiad byw trwy storïau gan ein haelodau.
Ceisiodd Jayne Coldrick am gefnogaeth gan Adferiad am y tro cyntaf yn 2022, wedi iddi brofi anawsterau yn rheoli ei llesiant tra’n gofalu am ei mab oedd â chyflyrau iechyd meddwl.
Mae ei mab, Daniel, yn 24 mlwydd oed ac ag awtistiaeth, ac wedi derbyn diagnosis o iselder a gorbryder.
Jayne yw’r unig ofalwr, ac mae’n darparu gofal parhaus i’w mab, gan sicrhau mai eu llesiant yw’r flaenoriaeth.
Amcangyfrifir bod 311,000 o bobl yng Nghymru yn darparu gofal di-dâl i anwyliaid neu ffrindiau oherwydd mater iechyd neu anabledd.
Mae Diwrnod Hawliau Gofalwyr yn dathlu hawliau cyfreithiol gofalwyr di-dâl trwy godi ymwybyddiaeth o’r cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt, gan anelu i ysgafnhau rhywfaint o’r pwysau sy’n gysylltiedig â rhoi gofal.
Mae cyllid grant Amser yn darparu sefydliadau trydydd sector, megis Adferiad, gydag adnoddau hanfodol i ddarparu seibiannau byr hyblyg a chreadigol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru.
Maent yn darparu cefnogaeth ar gyfer Gofalwyr ar draws Cymru, yn cynnwys Sir Fynwy ble maent wedi derbyn cyllid ychwanegol i gefnogi unigolion sy’n cyflawni’r rôl.
Mae’r prosiect yn galluogi Gofalwyr, gyda chefnogaeth wedi ei theilwra, i wella gwytnwch a llesiant, yn cynnwys seibiant â thâl a gwyliau i ffwrdd o’r cartref.
Gallwch weld yr holl leoliadau ble cynigir y gwasanaeth yn y fan yma.
Wedi iddi gael mynediad i’r gwasanaeth, mae Jayne wedi derbyn cefnogaeth arbenigol i reoli ei llesiant, tra’n cynnig cyfle iddi gael seibiant o fewn cymuned o ofalwyr.
Disgrifiodd Jayne ef fel bod yn “amhrisiadwy” ac, erbyn hyn, mae’n ystyried ei Gweithiwr Llesiant Gofalwyr, Leigh Coburn, i fod yn un o’i ffrindiau agosaf.
Mae’r elusen yn amlygu llais un o’u haelodau fel rhan o godi ymwybyddiaeth yn y gwaith hanfodol mae gofalwyr yng Nghymru yn ei wneud.
Ar y Diwrnod Hawliau Gofalwyr hwn, mae Jayne, ynghyd ag Adferiad, yn galw am fwy o gydnabyddiaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl.
Dadleuai bod lleisiau gofalwyr yn aml yn mynd “heb eu hateb”, wrth iddynt “frwydro’n ddiddiwedd am gefnogaeth iechyd meddwl” ar gyfer eu hanwyliaid.
“Mae Daniel wedi bod yn eithaf gwael yn ddiweddar; mae’n ei chael yn anodd i gael ei hun allan o’r gwely’n yn y bore ac ddim yn edrych ar ôl ei hun yn gyffredinol.
“Rwy’n gwneud y gorau o fewn fy ngallu, ond mae’n her ar adegau, ac mae’n teimlo fel ei fod wedi cael ei adael”, meddai.
Cafodd Daniel amser anodd yn ystod ei blentyndod, heb gael diagnosis llawn nes ei fod yn 19 mlwydd oed, a effeithiodd ar ei addysg.
Jayne yw unig ofalwr Daniel, gyda’i brawd yn cynnig cefnogaeth yn achlysurol.
“Rwy’n poeni beth fyddai’n digwydd pe na bawn i o gwmpas. Nid oes gennym deulu mawr, ac nid yw Daniel yn gallu edrych ar ôl ei hun. Mae wedi bod yn rhwystredig, ac rwy’n teimlo ei fod wedi ei adael i mi i geisio ei helpu.”
“Yn aml, gelwir gofalwyr yn arwyr di-glod, ond pwy sy’n edrych ar ôl y rhai sy’n agored i niwed wedi iddynt fynd?”
“Mae’n teimlo fel ein bod wedi cael ein gadael i edrych ar ôl ein hunain”, meddai.
Dros amser, mae Jayne yn cydnabod bod ei llesiant hi yn cael ei ystyried fel ail flaenoriaeth wrth iddi roi’r pwyslais ar ofalu am ei mab.
“Y mwyaf yr oeddwn i’n blaenoriaethu Daniel, y caletaf oedd hi arnaf i fy hun. Edrychais am gymorth gan Adferiad a chael mynediad i’w Gwasanaethau Cefnogaeth Gofalwyr.
“Mae’r gefnogaeth maent wedi ei roi i ofalwyr yn amhrisiadwy, gan roi cefnogaeth i bobl sydd angen seibiant gofalu.
“Rwy’n meddwl y byddai unrhyw un sy’n cael mynediad i’r gwasanaeth yn dweud wrthych fod y gefnogaeth yn wych; i bawb sy’n ei ddefnyddio, buaswn ar goll hebddynt”, meddai.
Trwy gael mynediad i Grantiau Iechyd Meddwl Amser gan Adferiad, mae wedi galluogi Jayne i fynychu digwyddiadau grŵp crefft yn ogystal â theithiau seibiant.
“Mae eu cefnogaeth wedi bod yn anhygoel. Mae Leigh, sy’n gweithio’n agos gyda mi, wedi tyfu i ddod yn ffrind agos.
“Mae nhw’n gwrando ar ofalwyr ac yn cynnig ysgwydd i bwyso arni”, meddai.
Mae Jayne, sy’n 64, nawr wedi codi ymwybyddiaeth yn y gwaith diflino mae gofalwr yng Nghymru yn ei wneud, ond mae’n dadlau bod angen cefnogaeth bellach yn enwedig gyda chwestiynau’n cael eu codi ynghylch meini prawf y Taliad Annibyniaeth Personol (‘PIP’).
“Mae yna lawer o ansicrwydd, ac mae’n fy ngwneud yn bryderus. Rwy’n meddwl, heddiw, bod pobl yn cael eu barnu am fod yn fachog os ydynt yn ceisio am fudd-daliadau ar gyfer iechyd meddwl.
“Dydi hyn ddim yn iawn, ac nid yw pobl yn sylweddoli faint o gefnogaeth mae’r bobl yma ei hangen. Hoffwn weld mwy o gefnogaeth ariannol ar gyfer gofalwyr.
“Hoffwn hefyd chwarae mwy o ran i gynllunio gofal a thriniaeth ar gyfer fy mab. Dydw i ddim eisiau iddo dreulio ei fywyd ar feddyginiaeth, ac fe hoffwn weld mwy o hawliau’n cael eu hychwanegu ar gyfer gofalwyr”, meddai.