Am y Prosiect
Mae Amser yn cefnogi gofalwyr di-dâl i gael mynediad i seibiannau byw creadigol, hyblyg sydd wedi’u personoli. Bydd yn darparu seibiannau sy’n gwella gwytnwch allesiant gofalwyr ac yn cefnogi cynaliadwyedd perthynas ofalu’r gofalwr. Wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Amser yn rhan o’r Cynllun Seibiannau Byr ar gyfer Gofalwyr Di-dâl, ac yn anelu i alluogi 30,000 o ofalwyr i gymryd seibiant o ofalu erbyn 2025.
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn arwain cynlluniau Amser a seibiannau byr yn genedlaethol. Mae Adferiad yn darparu seibiannau Amser i ofalwyr sy’n oedolion, sy’n gofalu am bobl ag anghenion iechyd meddwl.
Proses Atgyfeirio
Gofalwyr sy’n gofalu am bobl â phroblemau iechyd meddwl ac sy’n byw yn Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Conwy, Sir Dinbych, Sir Fflint, Gwynedd, Sir Fynwy, Sir Benfro, Bro Morgannwg, Wrecsam ac Ynys Mon.
I wneud cais, cysylltwch â Chydlynydd Amser Adferiad gan ddefnyddio’r e-bost uchod.