Cynllun Grantiau Diwylliant Llywodraeth Cymru ar gyfer Sefydliadau Llawr Gwlad

Sir:

Cymru Gyfan

Manylion cyswllt

E-bost:

culturegrants@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae Diverse Cymru, sydd nawr yn rhan o Adferiad, yn falch i gyhoeddi ein bod yn rheoli rownd ychwanegol o Gynllun Grantiau Diwylliant Llywodraeth Cymru ar gyfer Sefydliadau Llawr Gwlad ac y bydd y cynllun yn agored ar gyfer ceisiadau hyd at 5pm ar ddydd Llun, 15fed Medi 2025.

Mae Cynllun Grantiau Diwylliant Llywodraeth Cymru ar gyfer Sefydliadau Llawr Gwlad yn un o ystod o weithgareddau sy’n cymryd lle i gefnogi pobl o gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig – yn cynnwys pobl o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr; unigolion o’r gymuned LHDTC+; ac unigolion anabl, i gael mynediad cyfartal i a chyfranogiad mewn gweithgareddau cymunedol ar draws Cymru.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Mae’r Cynllun Grant hwn yn rhan o waith Llywodraeth Cymru ar gynllunio a strategaeth cydraddoldeb, yn benodol y:

  • Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
  • Cynllun Gweithredu LHDTC+ i Gymru
  • Cynllun Hawliau Pobl Anabl: 2025-2035

Mae gwybodaeth bellach am y gwaith hwn ar gael yn:

Equality planning and strategy | Sub-topic | GOV.WALES

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Bydd y rownd newydd yma o grantiau gwerth £174,000 o gyllid refeniw a £60,000 o gyllid cyfalaf yn galluogi Grwpiau Llawr Gwlad neu Grwpiau sy’n cael eu rhedeg gan neu ar gyfer:

  • Pobl o gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys pobl o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
  • Pobl o’r gymuned LHDTC+ yng Nghymru.
  • Pobl anabl yng Nghymru.

I ddarparu prosiectau 6 mis rhwng Hydref 2025 – Mawrth 2026 sy’n adlewyrchu amrywiaeth cymunedau Cymru drwy weithgareddau celf a diwylliant.

Mae 3 ffrwd grantiau:

  • Grantiau Bach (£1,000.00-£2,000.00)
  • Grantiau Canolig (£2,000.01-£5,000.00)
  • Grantiau Mawr (£5,000.01-£15,000.00)

Atgyfeirio

Os gwelwch yn dda, edrychwch ar dudalen pob ffrwd am fwy o fanylion neu cysylltwch â culturegrants@adferiad.org

Adnoddau