Mae ‘The Vibrant Mind’: Cofleidio Iechyd Meddwl trwy Gelfyddyd yn dod i Theatr y Grand Abertawe ar gyfer arddangosfa wythnos o hyd ar ei thaith Ewropeaidd. Mae ‘The Vibrant Mind’ yn brosiect sydd wedi ymrwymo i rymuso unigolion sy’n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl trwy bŵer mynegiannol celf, gyda’r holl ddarnau yn yr arddangosfa yn cael eu cynhyrchu gan bobl sydd â phrofiad byw o salwch meddwl.
Mae’r prosiect a arweinir gan Gamian-Ewrop yn cael ei drefnu a’i arddangos gan Adferiad, gyda chefnogaeth gan Grand Ambition, Theatr y Grand a Chyngor Abertawe.
Gan anelu at feithrin deialog, herio stigmateiddio, a hyrwyddo dealltwriaeth, mae’r prosiect yn amlygu’r berthynas gymhleth rhwng celf ac iechyd meddwl. Mae’r arddangosfa’n cynnwys casgliad o 30 darn o waith celf, wedi’u dewis yn arbennig drwy gyfuniad o bleidlais gyhoeddus a rheithgor o arbenigwyr celf, sy’n mynegi profiad byw pob artist gydag amrywiaeth o gyflyrau iechyd meddwl. Mae Adferiad yn arbennig o falch bod gwaith gan Winston Gomez, Gweithiwr Adfer yn ein Cyfleuster Detox Hafan Wen yn Wrecsam, yn rhan o’r casgliad arbennig hwn.
Fel prosiect ar draws Ewrop, mae’r Arddangosfa ‘The Vibrant Mind’ yn cael ei harddangos ar draws y cyfandir mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys orielau a sefydliadau cleifion, ar ôl stopio eisoes yn lleoliadau fel Helsinki, Brwsel, ac Athen yr haf hwn. Mae’r cymal Cymreig hwn o’r daith yn gyfle unigryw i’r cyhoedd weld y casgliad cyn iddo ddychwelyd i’r cyfandir, gyda’r unig gyrchfan arall yn y DU yn sioe breifat yn Llundain!
Bydd Arddangosfa ‘The Vibrant Mind’ yn cael ei harddangos ar Deras To Theatr y Grand Abertawe rhwng yr 2il a’r 8fed o Awst, gyda digwyddiad lansio arbennig yn cael ei gynnal rhwng 12pm a 2pm ddydd Gwener yr 2il o Awst.
Mae’r arddangosfa yn rhad ac am ddim i’w mynychu ac yn agored i’r cyhoedd rhwng 10am a 5pm yn ystod y dyddiadau hyn. Gellir archebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad lansio trwy Eventbrite Digwyddiad Lansio Vibrant Mind | Eventbrite