Rydym yn falch o gyhoeddi fod Amser i Newid Cymru, mewn cydweithrediad gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (SBUHB), wedi ei gynnwys ar y rhestr fer yn y categori ‘Gweithio’n ddi-dor ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector’ ar draws GIG Cymru yng Ngwobrau GIG Cymru 2023.
Mae Amser i Newid Cymru (partneriaeth rhwng Adferiad a Mind) yn ymgyrch genedlaethol wedi’i hanelu at leihau’r stigma sy’n gysylltiedig â iechyd meddwl. Maent wedi ymgyrchu’n ddiflino ar draws Cymru, gan annog busnesau i gydnabod iechyd meddwl yn y gweithle, i gofrestru i addewidion ac i ddarparu sgyrsiau gan bobl gyda phrofiad byw ar draws y wlad.
Ond, eu gwaith diweddaraf o ddarparu hyfforddiant i Staff y GIG i gael gwared o’r stigma a’r gwahaniaethu sy’n wynebu pobl yng Nghymru sydd â phrofiad o broblemau iechyd meddwl sydd wedi ennill eu lle ar y rhestr fer am y Wobr GIG Cymru.
Mae’r modwil yn ymchwilio’r arferion adferol, gyda ffocws ar gydweithio ac ar ddeialog rhwng staff gofal iechyd a’r bobl sydd â mynediad i’r gwasanaethau, gan edrych i wella safon y profiadau yn gyffredinol. Mae ffocws yr hyfforddiant ar rymuso staff gofal iechyd i adlewyrchu ar yr arferion presennol a’u galluogi i adnabod ffyrdd i wella profiadau cleifion sy’n profi problemau iechyd meddwl mewn ffordd sy’n anfeirniadol.
Mae’r gwobrau’n dangos sut y gall syniadau arloesol ar gyfer newid wneud gwahaniaeth sylweddol i gleifion sydd angen gofal, y sefydliadau sy’n darparu’r gofal, a’r system iechyd a gofal gyfan. Mae’n gyfle i ddangos timau ysbrydoledig, sy’n gweithio’n galed ac yn gweithio gyda’i gilydd, gan ymdrechu i wella arferion gofal iechyd a gofal cleifion ledled Cymru.
Roedd y beirniaid wedi eu synnu unwaith eto gyda safon yr ymgeiswyr ac wedi ei chael yn anodd iawn i dynnu rhestr fer. Dywedodd un beirniad. “Mae wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig i ddarllen cymaint o geisiadau gwych gan dimau a sefydliadau ar draws ein GIG yng Nghymru. Mae’n fraint cael treulio amser yn tynnu rhestr fer o’r prosiectau ac i weld y manylion am sut mae gwelliannau’n cael eu gwneud i’r gofal rydym yn ei ddarparu ar gyfer ein defnyddwyr gwasanaeth i gyd.”
Bydd y panel beirniadu nawr yn cynnal ymweliad rhithiol gyda phob un sydd yn y rownd derfynol i ddarganfod mwy am y prosiectau ac i weld drostynt eu hunain y buddion maent wedi ddod i gleifion. Mae pob panel beirniadu yn cynnwys arbenigwyr o ar draws y GIG yng Nghymru, y sector gyhoeddus a chyrff proffesiynol.
Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni yng Nghaerdydd ar 26 Hydref.
I ddarganfod mwy am ein hymgyrch Amser i Newid Cymru, ewch i: www.timetochangewales.org.uk/cy/ os gwelwch yn dda