News     26/04/2023

Mae Adferiad yn Cefnogi Digwyddiadau Balchder ar Draws Cymru

Mae Adferiad yn Cefnogi Digwyddiadau Balchder ar Draws Cymru

Mae Adferiad yn falch i fod yn cyhoeddi digwyddiadau Balchder ar draws Cymru dros yr wythnosau nesaf.

Yn ychwanegol i fynychu digwyddiadau Balchder yn Abertawe a Chaerdydd, eleni bydd Bae Colwyn yn cynnal ei ddigwyddiad Balchder cyntaf, digwyddiad mae Adferiad yn ei noddi.

Dywedodd Alun Thomas, Prif Weithredwr Adferiad: “Mae ein hymgysylltiad gyda Balchder wedi tyfu a datblygu dros nifer o flynyddoedd, drwy fynychu i ddechrau, ac yna drwy hyrwyddo, a thrwy noddi erbyn hyn.

“Mae Adferiad wedi gweithio gyda nifer o grwpiau dylanwadol i’n helpu i greu gofod diogel ar gyfer ein tîm i ddysgu ac i ddeall, i ddarparu sefydliad dibynadwy a chrosawgar ar gyfer buddiolwyr a staff, ac i weithredu fel goleufa a llais ar gyfer newid trwy ddod yn esiampl ar gyfer ymarfer ac yn sefydliad sy’n Cadarnhau Hawliau.

“Mae Balchder yn ddathliad o bobl a’u dycnwch, a tra mae’n aml yn ddigwyddiad penodol, mae Adferiad Recovery yn credu y dylwn gario’r ysbryd hwnnw gyda ni trwy gydol y flwyddyn.

“Gwaetha’r modd, mae gwahaniaethu a throsedd casineb yn broblem ddyddiol i’r gymuned LGBTQ+ ac mae Balchder yn allweddol i godi ymwybyddiaeth ac i ddathlu unigoliaeth. Fel un o elusennau mwyaf Cymru, ac un o’r elusennau mwyaf yn y Deyrnas Unedig, mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau fod Balchder yn cael ei gefnogi i barhau’r daith anhygoel sydd wedi cael ei dathlu am dros 50 mlynedd.”

Y Digwyddiadau:

Abertawe: Sadwrn, 29ain Ebrill 2023. Cynhelir y tu allan i’r Guildhall gyda’r stondin y tu allan i Neuadd Brangwyn. Bydd yr orymdaith yn gadael o Wind Street am 11am.

Bae Colwyn: Sul, 14eg Mai 2023 ar Bromenâd Bae Colwyn.

Caerdydd: Sadwrn 17eg Mehefin a Sul 18fed Mehefin – Mwy o fanylion i ddilyn

Bydd gan Adferiad stondin ym mhob digwyddiad, gyda nifer o weithgareddau hwyliog yn digwydd drwy gydol y dydd. Os ydych yn mynychu un o’r digwyddiadau hyn, gwnewch yn siwr eich bod yn galw heibio i ddweud helo!