News     14/04/2023

Ymchwil newydd yn dangos bod 75% o’r bobl sy’n profi problemau gamblo methu agor i fyny i’w hanwyliaid

Ymchwil newydd yn dangos bod 75% o’r bobl sy’n profi problemau gamblo methu agor i fyny i’w hanwyliaid

Dengys ymchwil newydd bod tri chwarter (75%) o’r rhai hynny sy’n profi problemau gyda gamblo yn teimlo na allent ei drafod gyda’u hanwyliaid, gyda stigma fel y prif rwystr sy’n atal pobl rhag agor i fyny.

Mae’r data, o’r elusen GambleAware, yn awgrymu, yn ychwanegol i’r rhai hynny sy’n teimlo na allent siarad gyda theulu neu ffrindiau, bod bron i chwarter (23%) o oedolion yn datgan eu bod yn credu eu bod yn adnabod rhywun sydd wedi profi problemau gyda gamblo. Dengys y data hefyd sut mae tri allan o bump (61%) yn cael eu hatal rhag siarad gyda’r rheiny sy’n profi niwed gamblo oherwydd pryderon ynghylch stigma.

Mae niwed gamblo – neu ganlyniadau negyddol gamblo – yn fater iechyd cyhoeddus cymhleth. I fynd i’r afael â hyn, mae GambleAware wedi lansio ymgyrch iechyd meddwl fawr newydd i leihau’r stigma sy’n gysylltiedig â niwed gamblo trwy geisio newid canfyddiadau a dealltwriaeth cymdeithasol o’r mater. Mae’r ymgyrch wedi ei chreu ar y cyd gyda phobl sydd â phrofiad byw o niwed gamblo, gan roi eu profiadau wrth galon yr ymgyrch.

Dywedodd Zoë Osmond, Prif Weithredwr GambleAware: “Mae niwed gamblo yn gudd ac yn gymhleth eu natur. I lawer o bobl sy’n profi niwed gamblo, gall teimladau o gywilydd ac embaras olygu eu bod yn ei chael yn anodd i drafod y mater gydag anwyliaid.

“Gall niwed gamblo effeithio unrhyw un, sy’n ei gwneud hi mor bwysig ein bod yn cael gwared o’r stigma sy’n gysylltiedig gydag ef ac yn annog pobl i ddod ymlaen ac i siarad am niwed gamblo. Mae’n hen bryd i ni ddod â diwedd i’r stigma ac agor y drafodaeth am gamblo.”

Gyda’r data’n dangos y rôl mae stigma’n ei chwarae, comisiynodd GambleAware ymchwil pellach i agweddau a chanfyddiadau o amgylch niwed gamblo. Dangosodd y canlyniadau fod dros dri mewn pump (62%) yn cytuno fod pobl yn beirniadu y rhai hynny sy’n profi niwed gamblo mewn ffordd negyddol, gyda mwy na hanner (56%) yn cytuno ei bod yn bwysig i herio’r stigma sy’n gysylltiedig â niwed gamblo.

Dywedodd Beth Thomas, Pennaeth Gwasanaeth Niwed Gamblo yn Adferiad Recovery: “Y stigma o gwmpas gamblo yw un o’r prif rwystrau i bobl yn estyn allan a cheisio cefnogaeth.

“Mae’r ofn o gael eu labelu yn atal pobl rhag edrych am y gefnogaeth sydd ei angen arnynt i fynd i’r afael â’u caethiwed.

“Nid yw caethiwed yn diffinio person, dim ond dynol ydan ni i gyd ac mae gan pob un ohonom yr hawl i fyw mewn cymdeithas ble nad yw ein gwerth yn cael ei fesur yn ôl rhagfarn pobl eraill.

“Gwnaethom lansio ein hymgyrch Dynol o Hyd y llynedd, gyda’n nodau allweddol i:

  • Fynd i’r afael â’r stigma sy’n gysylltiedig â chaethiwed
  • I roi llais i’r rhai hynny sydd â phrofiad byw o gaethiwed
  • I ddathlu ac i hyrwyddo adferiad

“Mae mor bwysig ein bod ni’n mynd i’r afael â’r stigma ac yn agor y drafodaeth ynghylch gamblo i leihau niwed ac i annog mwy o bobl i chwilio am gymorth.

“Mae angen ymagwedd gydlynol system gyfan i leihau niwed gamblo. Felly, fel partner allweddol o’r rhwydwaith cefnogi gamblo genedlaethol rydym yn rhoi ein cefnogaeth lawn i gynllun stigma GambleAware ac yn gobeithio gwneud gwahaniaeth gyda’n gilydd.”

Dywedodd Dr Dame Clare Gerada, Llywydd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu: “Mae niwed gamblo yn fater iechyd cyhoeddus difrifol a gall effeithio unrhyw un. Gallent amlygu mewn amrywiol ffyrdd, gan gynnwys materiol iechyd meddwl neu gorfforol. Gall meddygon teulu a’r sector iechyd ehangach chwarae rôl hanfodol wrth fynd i’r afael â’r mater o niwed gamblo, trwy gefnogi’r rhai hynny sy’n profi’r niwed yn uniongyrchol. Mae’r ymgyrch hon yn gam pwysig i annog pobl a’r rhai yn y sector i agor y drafodaeth ac i gyfeirio tuag at yr offerynnau a’r cyngor all achub bywydau sydd ar gael.”

Dywedodd Dr Ellie Cannon: “Fel meddyg teulu, rwyf wedi gweithio gyda chleifion sy’n chwilio am gefnogaeth ar gyfer niwed gamblo, felly rwy’n deall sut gallent amlygu eu hunain i unigolyn mewn ffyrdd hynod heriol, sydd ddim yn annhebyg i gyflyrau eraill megis camddefnydd alcohol neu gyffuriau. Gyda stigma yn atal cymaint o bobl agored i niwed rhag chwilio am gefnogaeth, mae’n amser i gymdeithas herio ei ymagwedd hen fasiwn tuag at niwed gamblo a’r rhai hynny sy’n eu profi.”

Mewn ymdrech i agor y drafodaeth ynghylch niwed gamblo, mae GambleAware wedi partneru gyda’r cyflwynydd teledu a radio, Tyler West, gan fod  ei frawd wedi profi niwed gamblo am nifer o flynyddoedd a effeithiodd ar ei berthnasoedd gyda’i anwyliaid. Cyfarfu West gyda nifer o bobl eraill oedd wedi eu heffeithio gan niwed gamblo i ddarganfod mwy am yr effaith mae stigma yn ei gael ar y rhai hynny sy’n profi niwed, a sut y bu iddynt agor i fyny amdano.

Dengys y ffilm Stacey Goodwin a Martin Paterson a rannodd eu profiadau uniongyrchol, ynghyd â’r arbenigwr stigma, yr Athro Cyswllt Dr Joanne Lloyd, o Brifysgol Wolverhampton.

Dywedodd Tyler West: “Mae cyfarfod gydag eraill sydd wedi’u heffeithio gan niwed gamblo, fel roedd fy mrawd, wedi agor fy llygaid go iawn i’r stigma sy’n gysylltiedig â mater sy’n agos i’n nghalon i a pha mor gyffredin ydoedd. Mae angen i ni wneud rhywbeth ynghylch hyn.

Wedi profi’r effaith y gall niwed gamblo ei gael ar rhywun, gallaf weld pa mor bwysig yw hi i bobl deimlo’n gyfforddus i siarad ac i ofyn am gymorth os ydynt yn cael trafferth. Mae’n hanfodol ein bod i gyd yn gwneud mwy i newid y drafodaeth o gwmpas gamblo ac yn mynd i’r afael â sut mae cymdeithas yn gweld pobl sy’n profi niwed gamblo.”

Mae mynd i’r afael â’r stigma sy’n gysylltiedig â niwed gamblo yn gofyn am ymagwedd system gyfan, gan weithio mewn partneriaeth gydag eraill. Mae’r ymgyrch GambleAware hefyd yn dod â chynghrair at ei gilydd o grwpiau y gellir ymddiried ynddynt o’r sectorau preifat, cyhoeddus, a’r trydydd sector sy’n rhannu’r pwrpas cyffredin o atal niwed gamblo.

Dywedodd Dame Clare Moriarty, Prif Weithredwr Cyngor ar Bopeth (Citizens Advice): “Tra gall niwed gamblo effeithio ar unrhyw un, mae risg anghymesur i’r rhai hynny ar incwm is, neu rai sy’n byw mewn cymunedau mwy difreintiedig. Dyna pam rydym yn gweithio gyda GambleAware i helpu i leihau stigma gamblo ac i gefnogi pobl a chymunedau sydd â’r angen mwyaf.”

Os ydych chi’n poeni am y ffordd mae gamblo yn gwneud i chi deimlo, mae help ar gael. Am gyngor cyfrinachol, yn rhad ac am ddim, ac am gefnogaeth, edrychwch am GambleAware neu cysylltwch â’r National Gambling Helpline, sydd ar gael 24/7, ar 0808 8020 133. Cysylltwch gydag Adferiad yma: 01792 816 600 (Llun-Gwener 8am–5pm) neu drwy e-bost: info@adferiad.org