News     23/05/2023

Gweinidog Llywodraeth Cymru’n Cefnogi Ymgyrch Costau Byw Adferiad

Gweinidog Llywodraeth Cymru’n Cefnogi Ymgyrch Costau Byw Adferiad

Rydym yn falch o gyhoeddi lansiad ein Hymgyrch Haf 2023 – ‘Mae’n Amser i Gymryd y Llyw’.

Wedi ei lansio gan Jane Hutt AS, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac Alun Thomas Prif Weithredwr Adferiad; rydym yn ymateb i gleientiaid, teuluoedd, staff, a gwirfoddolwyr, sy’n gytûn wrth rannu un flaenoriaeth ar gyfer 2023 a thu hwnt – sut i oroesi’r argyfwng costau byw yn ddiogel ac mewn iechyd da.

Yn y lansiad, dywedodd Jane Hutt AS: “Hoffwn longyfarch menter a gweledigaeth Adferiad gyda’r ymgyrch yma dros yr haf. Rydym wedi bod drwy fisoedd oer y gaeaf, ond o ran y pwysau ym mywydau pobl, gwyddom pa mor anodd yw hi i gymaint o bobl, yn enwedig y mwyaf agored i niwed, a dyma pam mae gwasanaethau Adferiad mor bwysig.

“Bydd yr ymgyrch hon yn helpu pobl i dderbyn y gefnogaeth ymarferol a phersonol i fordwyo’r argyfwng costau byw.

“Mae’r argyfwng presennol, yn dilyn y pandemig, wedi cael effaith dwys ar wytnwch pobl a’u cymunedau ar draws Cymru. Nid yw’r swm o arian sydd gan pobl yn dod i mewn bellach yn ddigon i dalu am hanfodion sylfaenol bywyd.

“Y neges gan Lywodraeth Cymru yw na all un sefydliad unigol fynd i’r afael â’r argyfwng hwn eu hunain ac mae angen i ni weithio gyda’n gilydd i gefnogi ein dinasyddion sydd fwyaf agored i niwed ac i gefnogi ein cymunedau drwy’r amser heriol hwn.

“Mae eich hymgyrch yn wirioneddol ymgorffori hyn. Trwy fod yn gymdogion da a helpu’r rhai o’n cwmpas, gall pob un ohonom wneud gwahaniaeth, yn enwedig i’r rhai sydd fwyaf agored i niwed.

“Ar hyn o bryd, mae gan 1 ym mhob 5 aelwyd ddiffyg yn eu cyllideb, sy’n golygu fod eu hincwm gwario yn annigonol i dalu eu biliau hanfodol sydd, yn anochel, yn arwain i ddyled ac mae pobl sy’n delio gyda dyled yn fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl.

“Mae buddsoddi yn ein gwasanaethau cynghori i sicrhau fod pobl yn derbyn y cyngor a’r cymorth sydd ei angen arnynt , mor fuan â phosibl, yn hanfodol.

“Mae’r ffigyrau’n dangos fod 80% o’r bobl oedd yn cael mynediad i wasanaethau cyngor unigol yn dod o grŵp blaenoriaeth, tra bo 64% wedi adrodd eu bod yn anabl neu â chyflwr iechyd tymor hir.

“Mae’n rhaid i ni gydnabod y gwasanaethau arbenigol, a’r rhai sy’n cefnogi iechyd meddwl yn arbennig, ac mae ymgyrch Adferiad yn adnabod y liferi allweddol ar gyfer mynd i’r afael â thlodi.

“Mae angen i ni weithio gyda’n gilydd fel partneriaid i fwyafu effaith ein hymdrechion ar y cyd.”

Ein Cynllun Deg Pwynt:

Drwy gydol ymgyrch yr haf bydd Adferiad yn gweithio gyda phartneriaid yn y Deyrnas Unedig a Chymru sy’n rhannu nodau ein hymgyrch, yn cynnwys Carers Wales a’r St Giles Trust.

Byddwn hefyd yn ymgysylltu’n gadarnhaol gydag asiantaethau allweddol yn genedlaethol ac yn lleol, yn cynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau ac Awdurdodau Lleol, i hwyluso trafodaeth ac i wella eu dealltwriaeth a’u hymateb i anghenion ein cleientiaid.

Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig:

  1. Sicrhau fod budd-daliadau ar gyfer pobl sydd ag anabledd neu salwch hir-dymor yn codi gyda chwyddiant (mae chwyddiant yn llawer uwch i bobl sy’n byw mewn tlodi oherwydd bod costau ynni yn cynrychioli cyfran uwch na’r cyfartaledd o’u gwariant – felly mae’n rhaid ystyried hyn); hefyd, gweithredu proses asesu Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) sy’n decach ac yn fwy hygyrch sy’n cael y cymorth i bobl yn gyflymach
  2. Adfer y cynnydd £20 wythnosol ychwanegol i’r Credyd Cynhwysol oedd mor ddefnyddiol pan oedd y pandemig Covid ar ei anterth
  3. Gwella’r gefnogaeth ariannol ar gyfer gofalwyr, gan gydnabod y gost a budd o alluogi gofalwyr i chwarae eu rôl trwy ddarparu cefnogaeth
  4. Hir-dymor: dechrau trafodaeth genedlaethol am ddyfodol budd-daliadau, gyda’r nod o wella bywydau pobl sydd mewn perygl ac yn ddibynnol ar fudd-daliadau
  5. Cynyddu’r cymorth i’r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl a chaethiwed sydd yn barod i ddod yn weithredol yn economaidd – gwella cefnogaeth, hyfforddiant a chymhellion, ond heb roi pwysau ar y rhai hynny sydd ddim yn gallu gweithio

Mae angen i Lywodraeth Cymru:

  1. Hyrwyddo ymhellach yr angen i sicrhau fod gan bawb sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd Gynllun Gofal a Thriniaeth effeithiol yn ei le a bod y rhain yn cynnwys y deilliannau i’w cyflawni a pha wasanaethau sydd i gael eu darparu, neu gamau gwethredu i’w cymryd, yn yr adran ‘Cyllid ac Arian’
  2. Sicrhau bod pob oedolyn sydd mewn perygl, a’u gofalwyr – a theuluoedd plant mewn perygl – yn cael mynediad hawdd ac amserol i gyngor ac eiriolaeth o ran rheoli arian a dyled

Mae angen i’r sector wirfoddol yng Nghymru:

  1. Flaenoriaethu ‘r bobl sydd mewn perygl a effeithir fwyaf gan dlodi, yn cynnwys darparu cyngor a chefnogaeth neu hwyluso mynediad i gefnogaeth gan arbenigwyr
  2. Rhoi llais i bobl sydd mewn perygl er mwyn i’w hanghenion gael eu clywed gan Lywodraethau y Deyrnas Unedig a Chymru

A gall pob un ohonom:

  1. Fod yn gymdogion da. Gall helpu’r pobl o’n cwmpas ni wneud gwahaniaeth mawr, boed hynny’n cyfrannu i fanc bwyd neu helpu unigolyn neu deulu rydych chi’n eu hadnabod.

I ddarganfod mwy am ein hymgyrch, Cliciwch yma os gwelwch yn dda.