Am y Prosiect
Mae Plant a Phobl Ifanc Merthyr yn Pen Y Dre yn wasanaeth llety â chefnogaeth sydd wedi ei leoli yn y Gurnos, Merthyr Tudful, gan ddarparu cefnogaeth 24/7 i bobl ifanc. Mae ein gwasanaeth yn darparu amgylchedd cartref diogel a meithringar,
tra’n hyrwyddo annibyniaeth a hunan-rymuso.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Cefnogwn bobl ifanc sy’n bennaf o leoliadau gofal neu’n wynebu digartrefedd. Maent yn cael eu fflat hunangynhwysol eu hunain o fewn ein adeilad ac mae cefnogaeth 24/7 ar gael os bydd yr angen yn codi.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Darparwn ymagwedd person-ganolog tra’n adeiladu ymddiriedaeth, a lle diogel i’n pobl ifanc i fyw. Mae ein cefnogaeth yn cwmpasu pob ardal o fywyd person ifanc, o sgiliau byw’n annibynnol, addysg/gwaith, iechyd corfforol, iechyd meddwl,
llesiant, i hyrwyddo perthynasau iach, dysgu sgiliau neywdd a datblygu a chynnal perthynasau ystyrlon. Trwy hyn, gall ein pobl ifanc wneud penderfyniadau positif a theimlo eu bod yn rhan o’u cymuned leol.
Atgyfeirio
Cefnogwn bobl ifanc rhwng 16-25 oed. Coesawn pob atgyfeiriad, a gellir eu gwneud drwy’r gwasanaethau cymdeithasol neu’r cyngor lleol.
Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth, neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, yna cysylltwch â ni trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost isod os gwelwch yn dda.