Llety â Chymorth Dros Dro Merthyr CYP – Rhandai Pen y Dre

Sir:

Merthyr Tudful

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

7 diwrnod yr wythnos, 24 awr.

Am y prosiect

Mae Rhandai Pen y Dre yn llety â chymorth 24 awr sydd yn cefnogi pobl ifanc sydd ag anghenion cymorth lefel isel a’r sawl sydd yn gadael gofal rhwng 16 a 24 ac yn rhan o weithgareddau addysg bellach yn Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae ar ystâd y Gurnos ym Merthyr Tudful ac yn cynnwys 5 fflat unigol ac 1 fflat ar gyfer staff.
Mae yna Weithwyr Cymorth Lle Bo’r Angen o Adferiad a Mentoriaid Tai sydd yn cefnogi unigolion 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Mae Rhandai Pen y Dre yn helpu pobl ifanc i adnabod eu hanghenion a’u caniatáu iddynt gymryd rheolaeth o’u bywydau drwy adeiladu dygnwch a’n datblygu sgiliau a’r adnoddau sydd angen arnynt er mwyn symud i fyw yn annibynnol yn y gymuned.

Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio

Bydd yr holl atgyfeiriadau i’r gwasanaeth yn cael eu gwneud drwy’r Pwynt Mynediad Sengl sydd yn cael ei reoli gan y Tîm HSG.

Bydd Panel Gosod Aml-asiantaeth yn cael ei gynnal er mwyn trafod addasrwydd ac atgyfeiradau yn cael eu hasesu yn unol ag anghenion a risgiau.

Adnoddau