Am y Prosiect
Mae rôl y Gweithiwr Cyswllt Gorwelion yn wasanaeth wedi ei leoli yn Aberystwyth sy’n gweithredu o Ysbyty Dydd Gorwelion a Portland Road rhwng 12yp (hanner dydd) a 4yp ar ddydd Gwener. Mae ein gwasanaeth yn grymuso unigolion i reoli cyflyrau iechyd meddwl yn well trwy ddarparu addysg, gwybodaeth, a chefnogaeth. Anelwn i leihau’r profiad o ynysiad cymdeithasol, i wella sefydlogrwydd, ac i gefnogi gwelliannau mewn iechyd corfforol ar gyfer pob unigolyn. Gweithiwn mewn partneriaeth gyda chydweithwyr yn y bwrdd iechyd ac asiantaethau eraill i wella deilliannau ymarferol, emosiynol a cymdeithasol pob unigolyn rydym yn eu cefnogi.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Darparwn gefnogaeth i unigolion 18 oed ac uwch sy’n byw yn ardal Ceredigion ac yn cael trafferth i reoli eu hiechyd meddwl. Efallai eu bod yn profi anhwylder seicotig, hwyliau isel, neu broblemau gyda gorbryder a straen. Rydym yn cynnig cefnogaeth galw i mewn heb ei gynllunio o flaen llaw, yn ogystal â darparu gweithdai a datblygiad sgiliau. Rydym hefyd yn darparu cefnogaeth i ofalwyr di-dâl, gan gynnig cyngor, gwybodaeth, ac arwyddbostio.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Darparwn gefnogaeth un-i-un yn ogystal â gweithdai a gweithgareddau grwp sy’n cryfhau sgiliau, yn hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol, yn darparu cyfleoedd i ddatblygu perthnasoedd, yn datblygu sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol, ac yn adeiladu hyder. Mae’r rhain yn cynnwys grwpiau cerdded a bwyta’n iach, gweithdai TGCh, yn ogystal â chyngor, gwybodaeth, ac arwyddbostio. Gyda’i gilydd, mae’r gefnogaeth rydym yn ei ddarparu’n anelu i wella iechyd corfforol tra hefyd yn rhoi’r cyfle ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol.
Atgyfeirio
Derbyniwn atgyfeiriadau gan feddygon teulu a’r sector eilaidd, yn ogystal ag asiantaethau trydydd sector a gofalwyr. Derbynnir hunan-atgyfeiriadau gan unigolion hefyd.
Os hoffech drafod y broses atgyfeirio gyda ni neu os ydych eisiau mwy o wybodaeth trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.