Gweithiwr Cyswllt Gorwelion

Sir:

Ceredigion

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

Fridays 1pm-5pm

Am y prosiect

Mae’r gwasanaeth yn darparu gweithgareddau sydd yn cael eu dylunio i gefnogi’r gwelliannau rhwng Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Gogledd Ceredigion a’r gymuned leol.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda chydweithwyr o’r bwrdd iechyd lleol ac asiantaethau eraill er mwyn gwella canlyniadau  ymarferol, emosiynol a chymdeithasol yr unigolyn.   

Rydym yn ceisio lleihau’r arwahanrwydd cymdeithasol, yn darparu sefydlogrwydd ac yn cefnogi gwelliannau mewn iechyd corfforol. Mae’r gwasanaeth yn ceisio ymrymuso unigolion i reoli eu cyflyrau iechyd meddwl  drwy addysg, gwybodaeth a chymorth.

Mae’r gwasanaeth yn darparu cymorth mewn ffyrdd amrywiol drwy:

  • Cymorth sydd heb ei gynllunio ac mae modd troi i fyny
  • Cynnal gweithdai
  • Cyngor a chanllawiau
  • Sesiynau Cynllunio Adferiad
  • Datblygu sgiliau fel hunan-reoli, strategaethau ymdopi, adeiladu hyder

-Cymorth i Ofalwyr a Theuluoedd.

Rydym yn darparu cymorth 1:1; gweithdai a gweithgareddau grŵp sydd yn atgyfnerthu sgiliau ac sydd yn medru cael eu defnyddio i hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol; yn darparu cyfleoedd i unigolion i adeiladu perthynas, datblygu sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol a’n adeiladu hyder.

Mae’r gweithdai yn cynnwys:

  • Grwpiau Cerdded sydd yn ceisio cefnogi gwelliannau mewn iechyd corfforol tra’n darparu cyfle ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol pwrpasol.
  • Grwpiau Byw’n Iachus sydd yn darparu cymorth i gynllunio a choginio’n iachus, prydau bwyd cytbwys.
  • Sesiynau TG sydd yn cynnig cymorth i ddatblygu sgiliau a hyder i ddefnyddio cyfarpar yn ofalus.
  • Gwybodaeth, cyngor a sesiynau atgyfeirio sydd yn cysylltu unigolion gyda gwasanaethau cymunedol.

Mae’r gwasanaeth wedi ei ariannu gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda.

Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio

Iechyd Meddwl.

Mae pob llwybr atgyfeiro yn cael eu hystyried, ac yn cynnwys CHMP, meddygfeydd, sector gwirfoddol, yr heddlu, prifysgol leol, drwy ofalwyr ac drwy hunanatgyfeirio.

Adnoddau