Am y Prosiect
Mae Gwasanaethau Byw â Chymorth Ceredigion Adferiad yn Wasanaeth Gofal Cartref Cofrestredig sy’n darparu cymorth Iechyd Meddwl Arbenigol ar draws Sir Ceredigion i gynorthwyo pobl ag afiechyd meddwl difrifol i barhau i fyw yn eu cartref eu hunain. Mae cefnogaeth y Gwasanaeth Byw â Chymorth yn canolbwyntio ar alluogi Defnyddwyr Gwasanaeth i wneud y mwyaf o’u hannibyniaeth. Rydym yn darparu cymorth mewn meysydd fel gweithgareddau bywyd bob dydd, tasgau ymarferol eraill, cydymffurfiaeth â meddyginiaeth, a datblygu strategaethau ymdopi. Rydym hefyd yn annog defnyddwyr gwasanaeth i ryngweithio â’u cymunedau a’u diddordebau trwy gynyddu eu hyder a’u sgiliau i gyflawni’r gweithgareddau a’r tasgau hyn dros eu hunain.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Rydym yn cynnig cymorth i oedolion (18 oed ac uwch) ar draws Sir Ceredigion. Mae’r prosiect yn darparu Gwasanaethau Byw â Chymorth person-ganolog yn y gymuned i ddefnyddwyr gwasanaeth sydd â Salwch Meddwl Difrifol.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Mae Tîm Adferiad yn darparu cymorth i helpu unigolion gyda’r canlynol:
- Mynychu apwyntiadau
- Gwirfoddoli – gyda’r nod o greu galwedigaeth ystyrlon a chynnwys cymunedol
- Cyllid – fel talu biliau
- Rhyngweithio â’r gymuned – annog a galluogi cleientiaid i deimlo’n rhan o’r gymuned (drwy leihau unigedd ac adeiladu gwytnwch)
- Meithrin cyfeillgarwch â chyfoedion
- Mynychu grwpiau fel celf a cherddoriaeth ac archwilio cyfleoedd newydd
- Gweithio ar Sgiliau Byw Annibynnol Dyddiol
- Cyfeirio at wasanaethau eraill pan fo angen
Atgyfeirio
Gall oedolion (18 oed ac uwch) sydd angen cymorth i aros yn eu cartrefi eu hunain gael eu cyfeirio at Dîm Gwasanaethau Byw â Chymorth Cyngor Sir Ceredigion gan eu Gweithiwr Cymdeithasol, Nyrs Seiciatrig, neu Dîm Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion. Bydd atgyfeiriadau unigol yn cael eu gwneud gan Gyngor Sir Ceredigion naill ai’n electronig neu dros y ffôn i Ddarparwyr Cofrestredig yng Ngheredigion sydd ar y rhestr Gymeradwy y gwasanaeth.