SLS (Gwasanaeth Byw â Chymorth)

Sir:

Cheredigion

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

8am – 6pm 7 diwrnod yr wythnos. Hyd yn oed dros gyfnod y gwyliau.

Am y prosiect

Mae’r gwasanaeth yn Wasanaeth Byw â Chymorth.
Mae’r gwasanaeth o dan Fframwaith Gwasanaeth Byw â Chymorth. Mae’r Cyngor yn danfon EOI (Expression of Interests) – proffiliau unigol. Mae darparwyr yn adolygu ac os yw’r Darparwr yn medru diwallu anghenion y cleient a’n meddu ar gaspasiti o ran staff, mae Cynllun Cymorth yn cael ei gyflwyno fel Cynnig / Mynegi Diddordeb. Mae’r cais yn cael ei asesu gan Banel / Cydlynydd Gofal – y darparwr dewisedig ar gyfer y Pecyn Unigol.
Mae unigolion sydd yn cael eu gosod ar y Fframwaith angen mathau gwahanol o gymorth er mwyn eu parhau i fyw’n annibynnol yn y gymuned.
Mae Tîm Adferiad yn cynnig cymorth i unigolion:
Yn gweithio ar Sgiliau Byw’n Ddyddiol yn Annibynnol
Yn darparu grŵp cymorth i fyw’n annibynnol yn y gymuned. Mae Tîm Adferiad yn cynnig cymorth i unigolion:

  • Mynychu apwyntiadau,
  • Cyllid – talu biliau
  • Rhyngweithio gyda’r gymuned – yn annog a’n caniatáu cleientiaid i deimlo’n rhan o’r gymuned (lleihau arwahanrwydd ac adeiladu dygnwch).
  • Adeiladu cyfeillgarwch gyda’u cymheiriaid
  • Mynychu grwpiau fel celf, cerddoriaeth a’n archwilio cyfleoedd newydd.
  • Atgyfeirio at wasanaethau eraill pan fydd angen
  • Gweithio ar Sgiliau Byw’n Ddyddiol yn Annibynnol
  • Mae’r gwasanaeth hefyd yn ceisio creu meddiannaeth pwrpasol a chynnwys cymunedol drwy wirfoddoli

Mae’r gwasanaeth yn cael ei ariannu gan HSG yr Awdurdod Lleol

Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio

Iechyd meddwl.
Mae llwybrau aygfeirio yn cynnwys Timau iechyd Meddwl Cymunedol/Bwrdd Iechyd/HSG/ Mynegi Diddordeb/ Awdurdod Lleol.

Adnoddau