Gwasanaeth Byw â Chymorth Malvern Drive

Sir:

Caerdydd

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

24 awr y dydd
7 diwrnod yr wythnos

Ffôn:

07970 436183

E-bost:

malverndrive@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae’r Gwasanaeth Byw Gyda Chefnogaeth Malvern Drive wedi ei leoli yn Llanishen, Caerdydd, ac mae iddo 12 fflat hunan-gynhwysol, i gyd o fewn yr un adeilad. Mae 11 ar gyfer unigolion sy’n profi salwch meddwl difrifol, a’r deuddegfed yn gweithredu fel swyddfa staff, gofod cymunedol, a llety ar gyfer staff sy’n cysgu i mewn. Ein nod yw ddarparu amgylchedd diogel, cefnogol i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl difrifol. Cefnogwn unigolion i fod mor annibynnol, actif, a diogel â phosibl tra’n hyrwyddo a diogelu eu hawliau dynol a galluogi’r ansawdd bywyd gorau. Mae ein gwasanaeth yn bwysig am ei fod yn galluogi unigolion i ddatblygu sgiliau byw yn annibynnol a chynnal eu tenantiaeth.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Cefnogwn oedolion 18 oed ac uwch gyda phrif angen iechyd meddwl sydd wedi eu hadnabod fel bod angen cefnogaeth i’w galluogi i reoli eu deiliadaeth tai eu hunain.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Anelwn i wella a chynnal llesiant defnyddwyr gwasanaeth trwy ddarparu amgylchedd diogel a chefnogol. Rydym hefyd yn gwneud hyn drwy ddefnyddio adnoddau personol, rhwydweithiau cymdeithasol, sgiliau proffesiynol, a gwasanaethau cymunedol i sicrhau bod defnyddwyr yn dod yn fwy annibynnol ym mhob ardal o’u bywyd, sy’n cynnwys:

• Cefnogaeth i reoli llety ac i deimlo’n ddiogel
• Cymorth i wneud penderfyniadau ac i gymryd risgiau positif
• Cefnogaeth i fynd i weithgareddau cymdeithasol neu hamdden i deimlo’n rhan o’r gymuned leol
• Cefnogaeth i gaffael cyflogaeth ac addysg a mynediad i hyfforddiant
• Cefnogaeth ariannol ac arwyddbostio
• Cefnogaeth i gael ffordd o fyw iach, yn cynnwys bwyd, siopa ac ymarfer corff

Atgyfeirio

Mae ein gwasanaeth yn berthnasol i oedolion sy’n profi salwch meddwl, sydd, yn dilyn asesiad llesiant, wedi cael eu hadnabod fel bod angen gofal a chefnogaeth.

Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod os gwelwch yn dda.