Am y prosiect
Mae Gwasanaeth Byw â Chymorth Malvern Drive yn cynnwys 12 fflat sydd oll o fewn yr un adeilad, gydag un ar ddeg ar gyfer unigolion sydd yn profi afiechyd meddwl a’r deuddegfed ar gyfer staff y swyddfa, gofod cymunol a lle i staff gysgu dros nos.
Mae’r gwasanaeth yn rhoi pecyn gofal a chymorth unigol i bob person. Mae’r cymorth i unigolion er mwyn caniatáu pob person i fod mor annibynnol, actif ac yn ddiogel ag sydd yn bosib tra’n hyrwyddo a’n protestio am eu hawliau dynol ac yn rhoi’r dechrau gorau posib iddynt yn eu bywydau.
Mae staff Gwasanaeth Byw â Chymorth Malvern Drive yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill, gwasanaethau iechyd meddwl, teuluoedd, gofalwyr a mudiadau eraill er mwyn darparu gwasanaeth allgymorth er mwyn hyrwyddo lles ac adferiad ac yn ffocysu ar eu hanghenion, dyheadau a blaenoriaethau pob un unigolyn.
Bydd y gwasanaeth yn rhoi’r cyfle i unigolion i ddatblygu eu sgiliau annibynnol er mwyn cynnal eu tenantiaeth.
Mae’r prosiect yn cael ei staffio ddydd a nos, gydag un aelod o staff yn cysgu dros nos.
Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio
Mae’r Gwasanaeth Byw â Chymorth hefyd yn berthnasol i oedolion sydd yn profi afiechyd meddwl, ac sydd wedi, ar ôl derbyn asesiad o les, yn cael eu hadnabod fel rhai sydd angen cymorth a gofal.
Mae’r sawl sydd yn cael eu hatgyfeirio i’r Gwasanaeth Gofal yn y Cartref yn cael eu hadnabod gan Dîm Gofal Cymdeithasol a Thîm Iechyd Meddwl Cymunedol Caerdydd.
Byddwn yn rhannu manylion am yr unigolyn gydag Adferiad Recovery ynghyd â’r Cynllun Gofal a Thriniaeth diweddaraf, Asesiad Risg a’r Asesiad o Les.
Yn ystod yr asesiad ar gyfer symud i mewn, bydd staff gwasanaeth Adferiad Recovery yn gweithio gyda’r unigolyn, y Tîm Lleoli Cymhleth a’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol er mwyn sicrhau bod anghenion yn cael eu nodi a bod modd rheoli’r broses o symud i’r llety a rennir, a hynny mewn modd sydd yn diwallu anghenion yn y ffordd orau.