Cyfarfod – Cynllun Cyfeillio

Sir:

Ceredigion

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

8yb – 6yh
7 diwrnod yr wythnos

Ffôn:

01970 627756

E-bost:

ruth.wilson@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae Cyfarfod yn gynllun cyfeillio sy’n darparu cefnogaeth un-i-un, am hyd at bedair awr yr wythnos, i unigolion 18 oed ac uwch yn ardal Ceredigion. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhedeg dros saith diwrnod yr wythnos, rhwng 8yb a 6yh. Anelwn i ddarparu cefnogaeth i bobl fyddai, am resymau amgylchiadau neu gwledigrwydd, yn cael trafferth i gael mynediad iddo fel arall a allai fod yn profi ynysu cymdeithasol.

Mae ein gwasanaeth yn cynnig gweithgareddau grwp wythnosol i’r grwp cleientiaid, ac yn darparu’r cyfle i ddefnyddwyr gwasanaeth i gyfarfod ei gilydd ac i gymryd rhan mewn gweithdai fydd yn datblygu eu sgiliau. Mae’r holl gefnogaeth yn canolbwyntio ar adferiad ac yn anelu i herio cleientiaid i fod yn uchelgeisiol o ran eu dyheadau. Mae’r gefnogaeth rydym yn ei gynnig yn hyblyg ac yn ymatebol i anghenion pob unigolyn.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Darparwn gefnogaeth i bobl a allai fod yn cael trafferth gydag ynysiad cymdeithasol. Efallai bod ein grwp cleientiaid yn profi hwyliau isel, problemau gyda gorbryder, straen, neu anawsterau gyda’u hiechyd meddwl. Darparwn gefnogaeth sy’n canolbwyntio ar adferiad ac yn helpu pobl gyda phroblemau sy’n ymwneud â llety, i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol, i wella eu rhwydweithiau cymdeithasol, i adeiladu eu sgiliau a’u hyder, ac i gael mynediad i gyfleusterau cymunedol.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Mae ein gwasanaeth yn darparu cyfuniad o gefnogaeth un-i-un a gweithgareddau grwp, gyda phob cefnogaeth a gynigir yn canolbwyntio ar adferiad. Darparwn gefnogaeth hefyd i alluogi cleientiaid i ddefnyddio cyfleusterau cymunedol (megis amgueddfeydd, canolfannau celf a chanolfannau ymwelwyr), tra cynhelir gweithgareddau grwp yn ein swyddfeydd yn Portland Road, ac fe all hyn gynnwys teithiau allan.

Atgyfeirio

Derbyniwn atgyfeiriadau gan feddygon teulu a’r sector eilaidd, yn ogystal ag asiantaethau trydydd sector a gofalwyr. Derbynnir hunan-atgyfeiriadau gan yr unigolyn hefyd.

Os hoffech drafod y broses atgyfeirio gyda ni neu os ydych eisiau mwy o wybodaeth, yna cysylltwch â ni, trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost isod.