Cyfarfod

Sir:

Cheredigion

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

8am-6pm 7 diwrnod yr wythnos

Am y prosiect

Mae’r gwasanaeth yn gweithredu ar hyd a lled Ceredigion ac yn ceisio lleihau’r profiad o arwahanrwydd a’n hyrwyddo adferiad ymhlith unigolion sydd yn profi problemau iechyd meddwl.

Mae’r holl gymorth yn ffocysu ar yr hyn y mae’r cleient am gyflawni ac yn cael ei deilwra i anghenion yr unigolyn. Mae hyn yn cael ei gynnig mewn modd sydd yn defnyddio’r egwyddorion yn y Rhaglen Adferiad.

Bydd y gwasanaeth yn cefnogi’r gwaith o adnabod gwasanaethau eraill a fydd yn gwella’r cynigion cymunedol, ffynonellau eraill o gymorth a’n gwneud atgyfeiriadau.

Mae cymorth yn cael ei gynnig i unigolion am hyd at 4 awr yr wythnos, fel arfer mewn un sesiwn, ond bydd hyn yn cael ei benderfynu gyda’r person a’r cyfaill os yn briodol. Mae asesiadau cychwynnol yn cael eu gwneud er mwyn nodi anghenion y cleient ac yn sicrhau ein bod yn ei baru gyda pherson priodol. 


Mae’r gwasanaeth yn ceisio creu cyfleoedd pwrpasol i weithio a chymryd rhan yn y gymuned drwy wirfoddoli. Os yn bosib, mae’r gwasanaeth yn ceisio darparu llwybrau adferiad i gleientiaid drwy eu recriwtio fel cyfeillion. Mae hyn yn medru creu llwybrau drwy fynd yn ôl i weithio a chaniatáu bod pobl yn cynorthwyo ei gilydd.

Rhaid i bob gwirfoddolwr i fynd drwy’r Gwasanaeth Gwahardd a Diogelu (DBS). Mae gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant cynhwysfawr a safonol cyn cael eu paru gyda chleient. Byddant yn derbyn cymorth a goruchwyliaeth yn rheolaidd a’r cyfle ar gyfer hyfforddiant, datblygiad proffesiynol a datblygiad gyrfaol os yn briodol.

Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei ariannu gan Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda.

Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio

Iechyd Meddwl.

Mae pob llwybr atgyfeirio yn cael ei ystyried ac yn cynnwys; Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol; Meddygon Teulu; sector gwirfoddoli; yr heddlu; prifysgol leol; gofalwyr a hunan-atgyfeiriadau.

Adnoddau