Hybiau CTMUHB

Sir:

Merthyr Tudful Rhondda Cynon Taf

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

Dydd Llun i Ddydd Gwener

Am y prosiect

Mae’r gwasanaeth ar gael ar draws Rhondda Cynon Taf a Merthyr er mwyn darparu cymorth i bobl sydd yn profi problemau iechyd meddwl. Mae hyn yn cael ei gyflawni drwy gyfrwng gweithgareddau pwrpasol sydd yn cael eu darparu gan y tîm a darparwyr allanol. Rydym hefyd yn ffocysu ar Gynllunio Adferiad gyda chleientiaid er mwyn gwella eu lles cyffredinol a’u hadferiad.
 
Mae grŵp o wirfoddolwyr gennym gyda gwybodaeth am therapïau garddio a therapïau ac rydym yn defnyddio eu sgiliau er mwyn darparu cymorth cymheiriaid i gleientiaid.  
 
Mae’r holl weithgareddau pwrpasol yn cael eu penderfynu gan y grŵp cleient drwy gyfarfodydd partneriaeth ac rydym yn ymgynghori gyda defnyddwyr gwasanaeth er mwyn cael eu mewnbwn ar y gwasanaeth, pa weithgareddau yr ydym yn cynnig ac mae hyn wedi cynnwys teithiau grŵp yn y gorffennol. 

Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio

Pobl sydd yn byw yng nghymunedau Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful a’r sawl sydd yn cael eu cefnogi ar hyn o bryd gan Wasanaethau Iechyd Meddwl BIPCTM.

Adnoddau