Am y Prosiect
Mae Clybiau Cymdeithasol Aberystwyth yn wasanaeth cerdded i mewn sy’n darparu cefnogaeth a gweithgareddau grwp i unrhyw un sy’n profi problemau gyda’u hiechyd meddwl a’u llesiant. Cynigiwn ystod o weithgareddau grwp a gweithdai, yn ogystal â’r cyfle am gefnogaeth cymheiriaid. Mae ein gwasanaeth wedi ei leoli mewn amgylchedd croesawgar a therapiwtig yn 9 Portland Road, Aberystwyth. Rydym yn agored ar ddydd Llun, Mawrth, Iau a Gwener rhwng 9.30yb a 2.30yp, a dydd Mercher rhwng 12.30yp a 2.30yp.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Darparwn gefnogaeth i bobl 18 oed ac uwch sy’n byw yn ardal Ceredigion. Cynigiwn gefnogaeth ymarferol, therapiwtig, gyfannol a pherson-ganolog i unigolion sy’n profi problemau gyda’u hiechyd meddwl a’u llesiant, sy’n dod ar ffurf gweithdai creadigol, ymarferol a chefnogaeth cymheiriaid. Anelwn i ddarparu cefnogaeth i bobl a allai fod yn cael trafferth gyda hwyliau isel, gorbryder, unigrwydd, gofidiau ariannol, problemau teuluol neu berthynas, ymhlith eraill.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Mae’r gwasanaeth yn darparu gweithgareddau grŵp a gweithdai sydd wedi eu teilwra i helpu defnyddwyr i ddatblygu eu sgiliau presennol ac i gaffael rhai newydd. Rydym eisiau cefnogi ein cleientiaid i gynyddu eu hunan-hyder ac i wella eu hunan-barch. Mae ein grwpiau’n cynnwys gweithdai celf, grwpiau cerddoriaeth a chanu, sesiynau TGCh a grwpiau adferiad. Rydym hefyd yn darparu arwyddbostio i wasanaethau eraill, yn ogystal â chyngor a gwybodaeth.
Atgyfeirio
Derbyniwn atgyfeiriadau gan feddygon teulu a’r sector eilaidd, yn ogystal ag asiantaethau trydydd sector a gofalwyr. Derbynnir hunan-atgyfeiriadau gan yr unigolyn hefyd.
Os hoffech drafod y broses atgyfeirio gyda ni neu os ydych eisiau mwy o wybodaeth, yna cysylltwch â ni trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.