Aberystwyth Social Clubs

Sir:

Ceredigion

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

Dydd Llun 9.30am-2.30pm

Dydd Mawrth 10am-2pm

Dydd Iau 10am-2pm

Dydd Gwener 9.30am-2.30pm

Am y prosiect

Mae Clybiau Cymdeithasol Aberystwyth (ASC) yn gweithredu o Heol Portland yn Aberystwyth.
Mae’r gwasanaeth yn darparu gweithgareddau grŵp a gweithdai sydd wedi eu dylunio ar gyfer pobl er mwyn eu helpu i oresgyn arwahanrwydd a’u helpu i integreiddio yn ôl i mewn i’r gymuned. Mae ASC yn ceisio cefnogi datblygu sgiliau allweddol mewn meysydd sydd yn adeiladu gallu, hyder ac annibyniaeth bellach.
Mae’r gwasanaeth yn hyrwyddo a’n datblygu cysylltiadau cymunedol ac integreiddio o fewn yr ardal Aberystwyth.
Mae gweithgareddau grŵp yn cael eu cynnal yn aml a’n cynnwys:

  • Gweithgareddau celf. Maent yn cael eu darparu gan diwtor Celf profiadol ac yn caniatáu pobl o bob gallu i ddatblygu eu gallu mewn amgylchedd therapiwtig.
  • Grwpiau Cerddorol a Chanu. Yn cael eu cynnal gan gerddor profiadol sydd yn medru helpu unigolion, nid oes ots beth yw eu gallu, i ddysgu sgiliau newydd mewn amgylchedd therapiwtig.
  • Gweithdai TG. Mae’r gweithdai yn helpu pobl i ddatblygu hyder a sgiliau i ddefnyddio TG. Mae offer yn cael ei ddarparu fel rhan o grant gan Awdurdod Lleol Ceredigion.

Mae’r gwasanaeth hefyd ar gael ar gyfer pobl sydd yn galw heibio. Tra nad yw’r gwasanaeth yn darparu ymyriadau ffurfiol ar gyfer argyfyngau, mae defnyddwyr gwasanaeth yn medru cael yr opsiwn i gysylltu gyda’r gwasanaeth y tu hwnt i oriau swyddfa arferol os ydynt angen cymorth. Mae modd gwneud hyn dros y ffôn neu ar e-bost.

Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd i wirfoddoli a chynnig cymorth i eraill. Mae’r gwasanaeth yn recriwtio gwirfoddolwyr. Mae diwylliant o helpu’n gilydd hefyd yn cael ei annog o fewn y gwasanaeth. Mae gwirfoddoli gyda’r gwasanaeth yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr gwasanaeth i chwarae rôl o fewn y gymuned a gwella cyfleoedd ar gyfer mwy o ymrymuso ac annibyniaeth.

Mae’r gwasanaeth yn cael ei ariannu gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda ac Awdurdod Lleol Ceredigion

Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio

Iechyd Meddwl.
Mae pob llwybr atgyfeirio yn cael ei ystyried ac yn cynnwys; Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol; Meddygon Teulu; sector gwirfoddoli; yr heddlu; prifysgol leol; gofalwyr a hunan-atgyfeiriadau.

Adnoddau