Cydgefnogaeth
Mae rhwydweithiau lleol Adferiad Recovery ledled Cymru’n cynnig cefnogaeth, cymorth ymarferol a’r cyfle i rannu profiadau, i wneud ffrindiau newydd ac i ymgyrchu. Aelodaeth sy’n dal y rhwydweithiau hyn gyda’i gilydd ac yn rhoi llais i’r cyfranogwyr am y ffordd yr ydym yn symud ymlaen.
Llais
Mae gan aelodau’r cyfle i gymryd rhan yn ein harolygon a’n grwpiau ffocws. Golygai hyn y byddwn yn gofyn am eich barn a’ch profiadau i godi ymwybyddiaeth yn ein cenhadaeth ac i godi proffil Adferiad.
Gall aelodau hefyd ethol Ymddiriedolwyr a chael y cyfle i ddod yn Ymddiriedolwr o dan gyfansoddiad Adferiad Recovery, sy’n golygu mai’r bobl sy’n derbyn ein gwasanaethau sy'n llywodraethu'r tîm staff sy'n eu darparu.
Cymorth ymarferol
Mae Adferiad Recovery yn cynnig ystod eang o wasanaethau i’r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl, dibyniaeth, materion sy’n cyd-ddigwydd/cymhleth ac anghenion corfforol, ac i’w teuluoedd a’u gofalwyr.
Adnoddau Cyfyngedig
Byddwch, fel aelod, yn derbyn adnoddau cyfyngedig yn cynnwys newyddlen i aelodau, gwahoddiadau i’n ddigwyddiadau ymgyrchoedd lleol a chenedlaethol, ac adnoddau pellach. Cewch fynediad i’n ‘Ardal Aelodau’ trwy ein gwefan.