News     10/08/2022

Adferiad Recovery yn ymateb i gynllun Gweinidog Iechyd Cymru i hybu’r Gymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Adferiad Recovery yn ymateb i gynllun Gweinidog Iechyd Cymru i hybu’r Gymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae Adferiad Recovery yn falch iawn o glywed y newyddion diweddar am lansiad cynllun y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan i hybu’r Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’r cynllun, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 2 Awst, yn ymgorffori elfennau allweddol o fframwaith dilynol Llywodraeth Cymru i’r strategaeth ‘Mwy na geiriau‘ a lansiwyd yn 2016. Nod y fframwaith yw hyrwyddo a chefnogi’r defnydd Gymraeg ar draws gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol a sicrhau bod unrhyw un sydd eisiau yn gallu derbyn eu gofal trwy gyfrwng y Gymraeg.

Gweledigaeth y Gweinidog yw gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol lle mae pobl yn cael cynnig eu gofal yn Gymraeg yn weithredol. Mae hi wedi datgan mai craidd y strategaeth yw egwyddor y Cynnig Rhagweithiol sy’n gosod cyfrifoldeb ar y darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol i gynnig gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn hytrach na bod cleifion neu ddefnyddwyr gwasanaeth yn gorfod gofyn amdano.

Mae Adferiad Recovery yn croesawu cyflwyniad y cynllun hwn ac yn llwyr gefnogi’r fenter i annog darpariaeth gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Cymraeg ledled Cymru. Rydym yn cytuno hefo’r Gweinidog Iechyd bod y rhai sy’n ceisio cael mynediad at y gwasanaethau hyn ar eu mwyaf agored i niwed ac felly mae’n hollbwysig eu bod yn cael y dewis i gyfathrebu â’u darparwyr gwasanaeth drwy’r iaith maent yn teimlo fwyaf cyfforddus ynddi.

Fel mudiad sydd â’i wreiddiau yn iaith a threftadaeth Cymraeg, mae Adferiad yn ymdrechu i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg i’r rhai sydd ei eisiau pryd bynnag y bo modd. Rydym eisoes wedi ymdrechu i allu cynyddu’r ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg o fewn ein sefydliad drwy gefnogi ein haelodau staff di-Gymraeg i gael mynediad i gyrsiau Cymraeg yn y Gweithle ac ar hyn o bryd rydym yn ceisio trefnu hyfforddiant preswyl yn Nant Gwrtheyrn.

Mae Cadeirydd Bwrdd Adferiad, Clive Wolfendale, yn eiriolwr brwd dros y Gymraeg, ar ôl dechrau ei ddysgu pan gyrhaeddodd Gymru o Fanceinion fel Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru. Yr wythnos diwethaf fe’i hanrhydeddwyd gan Orsedd y Beirdd am ei gyfraniadau i’r iaith Gymraeg a diwylliant yn ogystal ag i Les Cymdeithasol Cymru yn eu seremoni flynyddol fel rhan o’r Eisteddfod yn Nhregaron. Mewn ymateb i gyhoeddiad diweddar y Gweinidog Iechyd, dywedodd: “Rwy’n falch o weld y cyhoeddiad hwn gan Lywodraeth Cymru. Mae darpariaeth Gymraeg wreiddiedig yn rhan allweddol o sicrhau bod gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled y wlad yn ymateb yn lleol ac yn anelu at ragoriaeth. Edrychwn ymlaen at gefnogi Byrddau Iechyd ac awdurdodau eraill i gyflawni’r fenter hon.”

Mae Llywydd Oes Adferiad, Elin Jones, a gafodd hefyd ei hanrhydeddu gan yr Orsedd yn 2015 am ei gwasanaeth i ymwybyddiaeth iechyd meddwl a hanes Cymru, wedi bod yn ffigwr allweddol yn hyrwyddiad y Gymraeg yn y Trydydd Sector, fel cyn Gadeirydd Bwrdd Hafal ac yn ei rôl bresennol fel Llywydd Oes. Ychwanegodd: “Rwy’n gwybod fy hun pa mor frawychus yw hi i geisio cymorth gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a pha mor anodd yw hi i drafod materion personol a sensitif iawn yn eich ail iaith. Ni ddylid esgeuluso anghenion siaradwyr Cymraeg oherwydd rhwystrau iaith. Rwy’n falch iawn o’r cynnydd y mae Adferiad eisoes wedi’i wneud o ran darparu gwasanaethau Cymraeg a gobeithiwn barhau i wella ar hyn yn unol â chynlluniau newydd y Gweinidog Iechyd.”