News     30/09/2022

Adferiad Recovery yn llwyddo i sicrhau dyfodol Cyfle Cymru!

Adferiad Recovery yn llwyddo i sicrhau dyfodol Cyfle Cymru!

Rydym yn falch o gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi un o brosiectau mwyaf llwyddiannus Adferiad Recovery hyd yn hyn – Cyfle Cymru!

Mae cyfran helaeth o gytundeb Gwasanaeth Di-waith Llywodraeth Cymru wedi ei ddyfarnu i Adferiad, gan ein galluogi ni i barhau i ddarparu prosiect mentoriaid cymheiriaid Cyfle Cymru ar draws Cymru. Wrth symud ymlaen, bydd y prosiect yn parhau i gael ei ddarparu ar y cyd gyda’n cyd-elusennau Cymreig Barod a Kaleidoscope, yr ydym wedi rhannu perthynas agos gyda hwy dros y blynyddoedd.

Mae Cyfle Cymru yn helpu pobl a effeithir gan gamddefnydd cyffuriau ac/neu gyflyrau iechyd meddwl ar draws Cymru i ddatblygu hyder ac yn darparu cefnogaeth i unigolion i gael mynediad i hyfforddiant, cymhwysterau a phrofiad gwaith / gwirfoddoli. Mae ein tîm ymroddedig o Fentoriaid Cymheiriaid yn defnyddio eu profiad eu hunain o gamddefnydd sylweddau, adferiad ac/neu gyflyrau i gefnogi unigolion tuag at waith.

Mae gan Adferiad hanes profedig am ddarparu llwyddiant drwy ymgnawdoliad blaenorol y prosiect Cyfle Cymru. Nid yn unig mae ein Mentoriaid Cymheiriaid wedi cefnogi 1,346 o gleientiaid i mewn i waith, maent hefyd wedi helpu cleientiad i ennill 3,775 cymhwyster ac wedi gallu darparu 289,137 awr o gefnogaeth dros y 6 mlynedd diwethaf. Derbyniodd y prosiect wobr hyfforddiant y Princess Royal Training Award yn 2019 hyd yn oed, gwobr a ystyrir fel un o’r gwobrau mwyaf mawreddog ar gyfer hyfforddiant staff yn y Deyrnas Unedig, sy’n gael ei gymeradwyo a’i gyflwyno i dderbynwyr gan y Dywysoges Anne.

Bydd y prosiect Cyfle Cymru newydd, yn ei hanfod, yn dilyn yr un fframwaith busnes â’i ragflaenydd, gydag ychydig o newidiadau i wella’r ddarpariaeth gwasanaeth. Rydym hefyd yn falch o gyhoeddi y bydd nifer fawr o swyddi newydd yn cael eu creu ar draws Cymru i gefnogi tŵf y gwasanaeth hanfodol hwn.

Dywedodd Alun Thomas, Prif Weithredwr Adferiad: “Rydym wrth ein bodd i fod wedi sicrhau cyllid i allu parhau i ddarparu Cyfle Cymru, prosiect y mae mawr ei angen ar gyfer y rhai hynny sydd angen cefnogaeth i baratoi i ddychwelyd i fyd gwaith. Rydym yn falch o’r gwasanaeth arloesol hwn sy’n gweld mentoriaid cymheiriaid sydd â phrofiad byw o gamddefnydd sylweddau ac/neu broblemau iechyd meddwl yn defnyddio eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiad i gefnogi eraill ac mae wedi profi i fod yn effeithiol iawn wrth ymgysylltu cleientiaid gyda’r gwasanaeth.

“Mae’r prosiect wedi gweld llwyddiant mawr dros y 6 mlynedd diwethaf, ac edrychwn ymlaen i barhau gyda’r llwyddiant hwnnw ac i helpu hyd yn oed mwy o bobl ar eu taith i adferiad i sicrhau cyflogaeth ystyrlon a pharhaol gyda’n partneriaid yn Barod a Kaleidoscope. Gobeithiwn y gallwn, gyda’n gilydd, barhau i gefnogi Cyfle Cymru i fynd o nerth i nerth.”

 

Am fwy o wybodaeth am Cyfle Cymru, neu i wneud cyfeiriad, cliciwch yma

I ddarganfod may am ein swyddi gwag newydd, cliciwch yma