Tŷ’n Rodyn

Sir:

Gwynedd

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

24 awr

Ffôn:

01248 370762

E-bost:

tynrodyn@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae Tŷ’n Rodyn yn lety â chefnogaeth naw llofft ar gyfer dynion digartref sy’n gadael y carchar neu’n cysgu ar y stryd yng Ngwynedd. Wedi ei leoli ym Mangor, mae’r prosiect yn gweithio’n agos gydag asiantaethau eraill yn cynnwys y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, y Gwasanaeth Defnydd Sylweddau, a’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol. Mae Tŷ’n Rodyn yn ymateb i angen sylweddol o fewn yr ardal leol am lety ar gyfer y rhai hynny sy’n ddigartref pan yn cael eu rhyddhau o’r carchar. Mae’r prosiect wedi ei staffio 24 awr y dydd, ac yn agored am 365 diwrnod y flwyddyn, sy’n golygu y gall preswylwyr gael mynediad i gefnogaeth pryd bynnag mae ei angen. Ochr yn ochr â’r gefnogaeth, mae’r preswylwyr yn elwa o gael eu hystafell eu hunain a chyfleusterau a rennir.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Cefnogwn ddynion digartref sy’n gadael y carchar a rhai sy’n cysgu ar y stryd. Mae gan y dynion rydym yn eu cefnogi anghenion cymhleth ac anghenion sy’n cyd-ddigwydd, yn aml gyda hanes o droseddu, defnydd sylweddau a iechyd meddwl. Rydym yn mynd i’r afael â’r anghenion hyn gyda staff medrus a hyfforddedig iawn, sydd ar gael 24 awr y dydd, ar y cyd â gweithio amlasiantaeth i sicrhau fod cleientiaid yn cael mynediad i becyn cefnogaeth cynhwysfawr a rhyngddisgyblaethol.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Mae ein cefnogaeth yn berson-ganolog, yn wybodus am drawma, ac yn ffocysu ar alluogi’r unigolyn i gymryd rhan weithredol yn eu siwrnai. Gweithiwn gyda phreswylwyr i adnabod yr ardaloedd maent eisiau ffocysu arnynt, gan greu cynllun cefnogaeth gyda hwy i adnabod nodau ac i fesur cynnydd. Mae’r preswylwyr yn elwa o lety diogel o ansawdd uchel sydd, yn ei dro, yn lleihau’r galw ar wasanaethau digartrefedd lleol. Gyda llety sefydlog a chefnogaeth gyson gall preswylwyr fynd i’r afael â’r materion maent wedi eu hwynebu, lleihau troseddu, galluogi adferiad, perthynasau positif, a gwell llesiant.

Atgyfeirio

Derbynnir atgyfeiriadau drwy Dîm Un Pwynt Mynediad Gwynedd, sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda Thîm Digartref Gwynedd. Gallwn dderbyn atgyfeiriadau ar gyfer y rhai 18 oed ac uwch, sydd yn ddigartref (naill ai o ganlyniad i gael eu rhyddhau o’r carchar neu gysgu ar y stryd, o fewn sir Gwynedd.

Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth, cysylltwch trwy ddefnydduor rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod, neu fel arall, cysylltwch â 07775 852648