Gofal Amnewid Dros Dro (STRC)

Sir:

Sir Benfro

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

The service operates 24 hours a day, 365 days a year

Ffôn:

01437 764639

E-bost:

penny.jenkins@adferiad.org

Am y prosiect

Pwrpas y gwasanaeth hwn yw cefnogi gofalwyr di-dâl tra bod Asesiad o Anghenion (Asesiad Gofalwyr) yn cael ei brosesu gan yr awdurdod lleol (Cyngor Sir Benfro).

Mae’n cynnwys darparu gofal ymarferol, yn y cartref a chymorth i Ofalwyr di-dâl sy’n oedolion, yn eu caniatáu i gymryd seibiant pwrpasol bob wythnos, o’u cyfrifoldebau gofalu er mwyn lleihau’r straen corfforol ac emosiynol a ddaw o ofalu am anwylyd, a’u helpu i gynnal eu hiechyd a’u lles, drwy eu helpu a’u cefnogi gyda’u rôl gofalu ac osgoi bod y berthynas ofalu yn chwalu.

Mae hefyd yn cynnig cyfle i wella lles yr unigolyn sydd yn derbyn y gofal, drwy hyrwyddo annibyniaeth a chefnogi/creu cyfleoedd cymdeithasol a hamddenol.

Nod y gwasanaeth yw darparu seibiant tra bod yr Asesiad Gofalwr yn cael ei brosesu gan yr Awdurdod Lleol ac fel arfer yn cynnig 3 awr yr wythnos (yn ystod y dydd) a hyd at 12 wythnos tra’n aros am yr Asesiad Gofalwr.

Mae’r cymorth yn cael ei ddarparu m
ewn modd sydd yn seiliedig ar anghenion, dyheadau a ffafriaethau’r unigolyn er mwyn hyrwyddo lles ac annibyniaeth. Mae hyn yn cynnwys:

  • Cymorth gydag anghenion gofal personol sylfaenol fel mynd i’r toiled
  • Cymorth gyda maetheg a hydradu
  • Cymorth gyda meddyginiaeth presgripsiwn (cymell yn unig)
  • Cymorth gydag anghenion symudedd sylfaenol (ond nid y defnydd o gyfarpar Codi a Chario, fel hoists, offer symud ayyb)
  • Cymorth i gael mynediad at gymuned leol a’n mynychu digwyddiadau cymdeithasol (Gofalwyr)

Mae’r gwasanaeth wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru

Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio

Er mwyn medru cael mynediad at y gwasanaeth:

  • Rhaid bod y Gofalwr a’r Unigolyn Sy’n Derbyn y Gofal yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn
  • Rhaid bod yr Unigolyn Sy’n Derbyn y Gofal Cared yn byw yn Sir Fynwy
  • Ni ddylai’r Gofalwr fod yn derbyn unrhyw daliadau.
  • Rhaid bod y Gofalwr yn aros i’r awdurdod lleol i gwblhau asesiad o angen.

Mae’r gwasanaeth yn medru derbyn atgyfeiriadau gan ffrindiau ac aelodau teulu.

  • Gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
  • Gwasanaethau Gwybodaeth / mudiadau eraill e.e. Contractwyr Cymunedol, gweithwyr allgymorth ayyb.
  • Hunan-atgyfeiriadau /teulu a ffrindiau.

Mae atgyfeiriadau yn medru cael eu gwneud yn uniongyrchol drwy Wasanaeth Gwybodaeth a Chymorth i Ofalwyr Sir Benfro (PCISS) ar 01437 611002 neu drwy e-bostio PCISS@adferiad.org