Campaigns     12/05/2023

2022 Dynol o Hyd

2022 Dynol o Hyd

Dynol o Hyd

Caethiwed yw’r angen cymhellol i ddefnyddio sylwedd neu i gymryd rhan mewn ymddygiad penodol i’r pwynt lle mae’n dod yn niweidiol. Mae gan bob math o gaethiwed y potensial i achosi niwed i unigolion, i’w teuluoedd ac i’r gymdeithas ehangach. Mae nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau a marwolaethau sy’n gysylltiedig â gwenwyn alcohol wedi bod ar gynnydd yn gyson yng Nghymru a Lloegr dros y degawd diwethaf, ac amcangyfrifir bod cost cymdeithasol niwed cysylltiedig â gamblo yn y DU yn fwy na £1.27biliwn, sy’n awgrymu nad yw cymorth ar gyfer yr ymddygiadau problemus hyn yn cael ei ddarparu i’r bobl sydd ei angen fwyaf gan arwain at ganlyniadau angheuol yn aml.

Mae bron pob un ohonom yn adnabod rhywun sydd wedi profi problem caethiwed, ac felly mae’n bwysig sicrhau bod y rhai sy’n dioddef caethiwed, boed yn gyffuriau, alcohol, gamblo, ymarfer corff, rhyw, hap-chwarae, neu unrhyw ymddygiad niweidiol arall, yn cael yr help maent ei angen i adfer. Er hynny, mae’n ymddangos bod diffyg empathi amlwg gyda’r rhai sy’n profi problemau caethiwed, i’r graddau bod unigolion yn fwy ofnus o’r condemniad cyhoeddus o gyfaddef bod ganddynt broblem caethiwed na’r niwed y gall eu caethiwed ei achosi os na chaiff ei drin. Ond oni fyddech chi hefyd yn betrusgar o ddod ymlaen a chyfaddef fod gennych broblem pe byddech yn wynebu dirmyg a beirniadaeth eang o ganlyniad i wneud hynny?

Mae pobl sydd â salwch meddwl yn cael eu trin yn gynyddol gyda pharch a’u hystyried yn deilwng o gefnogaeth i’w helpu i wella. Yn aml iawn, mae caethiwed yn mynd law yn llaw â materion iechyd meddwl, a chaethiwed ei hun yn cael ei ystyried yn gynyddol fel problem iechyd meddwl ynddo’i hun. Felly, pam rydym ni, fel cymdeithas, mor amharod i ymestyn yr empathi hwnnw at gaethiwed? Nid yw’r rhai hynny sydd â phroblem caethiwed yn haeddu cael eu pardduo am rhywbeth sydd, yn ei hanfod, yn brobem iechyd meddwl. Mae gwaradwyddo unigolion sydd â chaethiwed yn parhau’r mater, gan fod y cywilydd sy’n dod o gyfaddef i eraill fod ganddynt broblem a’r ofn o gael eu labelu yn eu hatal rhag gofyn am y cymorth maent ei angen er mwyn mynd i’r afael â’u caethiwed. Mae’n amser derbyn nad yw caethiwed yn diffinio person. Dim ond dynol ydyn ni i gyd ac mae gennym ni i gyd yr hawl i fyw mewn cymdeithas ble nad yw ein gwerth yn cael ei fesur yn ôl rhagfarn pobl eraill. Mae Adferiad Recovery wedi ymrwymo i ymgyrchu’n frwd am welliannau mewn gwasanaethau, deddfwriaeth, newidiadau i systemau a barn gyhoeddus er budd ein buddiolwyr. Dyma pam rydym yn lansio ein hymgyrch “Dynol o Hyd” eleni. Bydd ein hymgyrch “Dynol o Hyd” yn annog pobl i gwestiynu beth maen nhw’n meddwl y maen nhw’n ei wybod am gaethiwed a’r rhai sy’n ei brofi.

Amcanion allweddol yr ymgyrch yw:

  • Mynd i’r afael gyda’r stigma sy’n ymwneud gyda chaethiwed. Drwy’r ymgyrch hon rydym yn gobeithio herio’r ddelwedd ystrydebol o rywun sydd â chaethiwed ac i ddangos fod pobl yn fwy na’u caethiwed ac yn haeddu ein parch a’n cefnogaeth.
  • I roi llais i’r sawl sydd â phrofiad o fyw gyda chaethiwed. Arweinir ein hymgyrch gan unigolion sydd â phrofiad o fyw gyda chaethiwed, gyda phob un â’i stori unigryw. Bydd yr ymgyrch yn cynnig llwyfan iddynt rannu eu profiadau i ysbrydoli eraill i chwilio am adferiad gan ddangos nad yw pawb sydd â chaethiwed yr un fath.
  • Dathlu a hyrwyddo adferiad. Mae adferiad yn daith o hunan-ddarganfod. Rydym am ysbrydoli y sawl sydd â phroblem caethiwed i fynd i’r afael gyda hyn a chwilio am yr help sydd ei angen arnynt i wella. Roeddem am iddynt weld bod adferiad yn rhywbeth positif ac ni ddylai pwysau gan bobl eraill roi pwysau arnynt i guddio eu caethiwed neu ddioddef mewn distawrwydd.

Bu’r ymgyrch Dynol o Hyd yn rhedeg drwy gydol 2022. I weld ein hadroddiad ar effaith yr ymgyrch cliciwch yma, (report attached)