Campaigns     12/05/2023

2021 Siaradwch gydag Adferiad

2021 Siaradwch gydag Adferiad

Wedi’i gefnogi gan fideo gan Michael Sheen

 

Yn 2021 fe wnaethom ofyn i bobl ddweud eu dweud am Adferiad Recovery ac i ddweud wrthym pa fath o elusen y dylem fod, pa nodau ac amcanion y dylem eu cael, a beth ddylem fod yn sefyll drosto?

Gyda chyfyngiadau’r cyfnodau clo yn llacio ar y pryd, trefnwyd cyfres o 23 digwyddiad lleol ble gallai pobl ddod at ei gilydd yn gymdeithasol gyda chydweithwyr a chyfeillion a phenderfynu sut i wneud Adferiad Recovery yn llwyddiant mawr.

Gwahoddodd ymddiriedolwyr ac uwch reolwyr Adferiad Recovery ein holl randdeiliaid – cleientiaid, aelodau, gofalwyr, staff, gwirfoddolwyr, cefnogwyr a chyllidwyr – i rannu eu dyheadau a helpu i lunio’r sefydliad newydd o’r cychwyn cyntaf. Gofynnwyd i bobl ein helpu drwy…

 

  • Ymuno â sgyrsiau’r cyfryngau cymdeithasol ar Facebook neu Twitter
  • Cymryd rhan mewn arolwg ar-lein neu wyneb yn wyneb
  • Siarad gyda staff yn eu gwasanaeth Adferiad Recovery lleol
  • Mynychu un o’r 23 digwyddiad lleol ar draws Cymru a Swydd
    Gaerhirfryn

Roedd gan pob un o’r digwyddiadau lleol naws anffurfiol a hwyliog gan gynnwys gweithgareddau, lluniaeth, a rhoddion wedi eu brandio gan Adferiad Recovery i’ch helpu i ledaenu’r neges. Roedd gan y digwyddiadau hefyd ofod “Siarad gydag Adferiad” ble gallai pobl gyfleu eu barn ar fideo, rhannu eu pwyntiau’n weledol ar wal graffeg, neu drwy siarad gyda staff a gwirfoddolwyr oedd yno i gofnodi safbwyntiau a barn yn gyfrinachol.

Yr oeddem yn gofyn yn arbennig:
Sut gall Adferiad…

  • Wneud y mwyaf o’i arbenigedd mewn iechyd meddwl, camddefnydd sylweddau, a chefnogaeth ar gyfer gofalwyr?
  • Ddatblygu ei friff ehangach ar gyfer pobl sydd ag anghenion cymhleth?
  • Ymgyrchu dros newid go iawn ym mywydau ein cleientiaid?
  • Fynd i’r afael â’r stigma o gwmpas iechyd meddwl, y defnydd o sylweddau, ac anghenion cymhleth eraill?

Yn dilyn yr ymgyrch, aethom ati i gynhyrchu adroddiad ac fe allwch ei ddarllen yma (wedi’i atodi)