News     22/09/2021

Llongyfarchiadau i’n Llywydd Gydol Oes Elin Jones ar ei llyfr hanes newydd!

Llongyfarchiadau i’n Llywydd Gydol Oes Elin Jones  ar ei llyfr hanes newydd!

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod ein Llywydd Gydol Oes, Elin Jones, sydd hefyd yn hanesydd Cymreig amlwg, wedi cyhoeddi llyfr newydd: ‘Hanes yn y Tir’. Yn y llyfr hwn, mae Elin yn cynnig tystiolaeth bod y gorffennol i’w weld ym mhob man yng Nghymru. Mae’n ein harwain ni ar daith weledol drwy  5,000 o flynyddoedd o hanes, a hynny o gwmpas pob rhan o Gymru.

Mae’n Llywydd Gydol Oes, Elin Jones, wedi bod yn un o’n cefnogwyr mwyaf am flynyddoedd ac roedd yn Gadeirydd Hafal am ddegawd  (2009-19).  Roedd Elin yn arfer dysgu yn ysgolion uwchradd Preseli, Rhydfelen a Chwm Rhymni cyn cael ei hapwyntio yn swyddog addysg ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Fel rhan o’i gwaith, roedd rhaid iddi fod yn gyfarwydd gyda phob cyfnod o hanes Cymru a pharatoi adnoddau ar gyfer pob oedran a gallu.

Yn 1996, dechreuodd Elin weithio mewn rôl ymgynghorol gydag Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru, ac roedd yn gyfrifol am reoleiddio cymwysterau hanes a datblygu cwricwlwm ar gyfer hanes a’r dulliau asesu a chomisiynu adnoddau dysgu hanes. Yn 2013, cadeiriodd tasglu a oedd yn gyfrifol am baratoi adroddiad i’r Gweinidog Addysg ar y  Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru. Mae Elin Jones yn siaradwr gwadd cyson ar Radio Cymru lle y mae’n trafod straeon a chymeriadau o hanes Cymru.

Dywedodd Alun Thomas, Prif Weithredwr Adferiad Recovery: “Ar ran aelodau Adferiad Recovery, hoffem longyfarch Elin ar ei llyfr diweddaraf sydd yn ffordd wych o ddal dychymyg dysgwyr ifanc fel ein bod yn eu hannog i ddysgu am hanes Cymru.

“Mae Elin yn rhoi ei hamser i ni yn ddiddiwedd fel mudiad er mwyn cefnogi ein gwaith ar draws Cymru ac mae’n cynnig llais amlwg i ni yn y cyfryngau Cymreig, ac felly, pan nad yw’n brysur yn hyrwyddo ein hachos, rydym wrth ein bodd yn gweld Elin yn chwarae rôl mor bwysig ym mywydau dysgwyr ifanc yng Nghymru drwy ysgrifennu llyfrau mor ysbrydoledig â hyn.”