Gwasanaeth Noddfa Abertawe – Castell-nedd Port Talbot

Sir:

Abertawe Castell-nedd Port Talbot

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

6pm-3am,
7 diwrnod yr wythnos ,
365 diwrnod yr wythnos

Ffôn:

01792 399676

Am y Prosiect

Mae’r Noddfa’n wasanaeth allan o oriau sy’n cynnig cefnogaeth person-ganolog, sy’n ymarferol, therapiwtig a chyfannol, i  unigolion sydd mewn perygl o argyfyngau iechyd meddwl. Mae ein cenhadaeth yn ehangu y tu hwnt i ymyrraeth yn unig; ymdrechwn i ddarparu noddfa ble gall unigolion ddod o hyd i gysur a chefnogaeth yn ystod yr oriau pan maent eu hangen. Trwy gynnig gofod diogel y tu allan i oriau traddodiadol, anelwn i leihau y risg o niwed i unigolion yn eu cartrefi. Mae ein tîm ymroddedig yn cynnal asesiadau diogelwch a llesiant ar gyfer pob unigiolyn cyn iddynt ddychwelyd adref, gan sicrhau eu bod yn derbyn y lefel briodol o ofal a chefnogaeth, ac yn galluogi atgyfeiriadau i wasanaethau eraill yn ôl yr angen.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Cynigwn gefnogaeth i unigolion 17 mlwydd a 9 mis oed ac uwch, sy’n byw yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae ein tîm yma i gynnig cymorth ac arweiniad i unigolion sy’n wynebu heriau megis: straen, hwyliau isel, pryderon ariannol, unigrwydd, ynysu, pryderon perthynasau/teulu, a thrais yn y cartref. Rydym eisiau darparu gofod diogel ar gyfer unigolion i archwilio eu pryderon ac i weithio tuag at well iechyd meddwl a llesiant.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Mae’r Noddfa darparu amgylchedd cynnes a chroesawgar, gydag ymdeimlad cartrefol. Y tu mewn, daw’r unigolion o hyd i ardal lolfa glyd, yn ogystal â chegin ac ardal fwyta. Hefyd, rydym yn darparu cyfleusterau cawod a golchi dillad, gan sicrhau bod eu hanghenion sylfaenol yn eu diwallu gydag urddas a pharch. Gan gydnabod pwysigrwydd preifatrwydd a chefnogaeth wedi’i unigoleiddio, rydym hefyd yn cynnig ardaloedd preifat ar gyfer y rhai hynny sydd eisiau amser distaw neu gefnogaeth un i un. Mae’r gofodau distaw hyn yn cynnig lloches i adlewyrchu, i sgwrsio, ac ar gyfer cefnogaeth wedi ei phersonoleiddio gan alluogi unigolion i deimlo eu bod yn cael eu gweld ac yn cael eu clywed.

Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio

Mae’r Noddfa’n gallu cynnig cefnogaeth i unigolion 17 mlwydd a 9 mis oed ac uwch, sy’n byw yn Abertawe neu yng Nghastell-nedd Port Talbot. Rydym yn agored i hunan-atgyfeiriadau ac atgyfeiriadau professiynol.

Cliciwch yma i wneud atgyfeiriad proffesiynol

Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth, neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bod uchod.